Rydych chi yn:  >   >   > 

Adnoddau

Caerllion, Isca’r Rhufeiniaid

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dyma adnodd newydd gwych ar gyfer plant sy’n astudio’r Rhufeiniaid. Bydd yn eich helpu chi i ddysgu’r Cwricwlwm Cenedlaethol trwy brofiad uniongyrchol o fywyd Rhufeinig yng Nghaerllion. Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am ymosodiad y Rhufeiniaid ar y de, disgrifiadau o’r gaer a’i thrigolion ac yn rhoi canllaw i’r Amgueddfa a’r henebion. Mae’n cynnwys cyfres o daflenni gwaith i chi eu defnyddio yn ystod eich ymweliad neu yn y dosbarth. (Dim ond copïau wedi eu llungopïo sydd ar gael, felly maen nhw am werth am bris llai.)

Pris £5.00 gan gynnwys postio a phacio

 

 

Addysg Oedolion, Cymunedau, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Explorer pack - for Amphitheatre and Barracks

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

This replica Roman satchel contains instructions, information and objects designed to help your group understand how the Romans used the amphitheater and barracks. Objects include Roman coins, caltrops and sponges on sticks. 

The satchel can be borrowed in exchange for a deposit (credit card/ cheque / £30 cash).

You can download the instructions to read through before your visit below.

Hyd: 1 awr

Manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad â Chaerllion

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dyma DVD addysgol a fydd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer eich diwrnod. Fe’i crëwyd ar y cyd â’r Bartneriaeth Addysg a Busnes a chafodd ei ffilmio a’i gynhyrchu gyda chymorth athrawon â phrofiad personol o’r safle. Mae’n cynnwys pob agwedd bwysig ar daith lwyddiannus i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a henebion Cadw.

Pris £11.49 gan gynnwys postio a phacio.

 

Athrawon

Teacher's Guide to Roman Caerleon (saesneg yn unig)

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

 

Dyma becyn newydd cyffrous sy’n eich helpu chi i ddod â’r henebion yn fyw i’r dosbarth. Mae’r pecyn yn cynnwys llyfryn sy’n esbonio cefndir gwahanol agweddau ar fywyd Rhufeinig yn y gaer gydag awgrymiadau am gwestiynau, atebion a gweithgareddau. Mae’n cynnwys 12 o luniau lliw A3 sy’n ail-greu bywyd y Rhufeiniaid, a llinyn fesur Rhufeinig. Mae’r pecyn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

£24.45 gan gynnwys postio a phacio

 

Am ddimDan arweiniad athro
Teuluoedd, Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2

Milwr Rhufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Rhowch yr arfau a'r dillad cywir i'r milwyr gan ddefnyddio'r modelau yn yr oriel i'ch helpu.

Hyd: 30 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro
Teuluoedd, Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2

Taflenni lliwio

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Astudiwch mosaigau ac anifeiliaid Rhufeinig i greu dyluniadau eich hun.

Hyd: 30 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimYn yr ysgol

Her Caerllion

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi ymuno gyda CADW ac AALl Casnewydd, i ddatblygu adnodd amlgyfrwng cynhyrfus ar gyfer ysgolion. Mae'r adnodd yn canolbwyntio ar Faddonau'r Gaer yng Nghaerllion ac mae wedi'i anelu at blant Blwyddyn 3 fel rhan o'u cwricwlwm hanes.

Daw'r adnodd ar ffuf cyflwyniad Microsoft PowerPoint strwythuredig sy'n gofyn i blant i lywio'u ffordd drwy'r tasgau. Mae'r cyflwyniad hefyd yn cysylltu â banc adnoddau amlgyfrwng unigryw a ddarperir gan AOCC a CADW. Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys darluniau, ffotograffau, golygfeydd rhithwir a gweithgareddau rhyngweithiol llusgo a gollwng.

Her Caerllion
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddimYn yr ysgol

Romans' TV

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Saesneg yn Unig.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddimYn yr ysgol

Y Frwydr Dros Gymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ffilm 4 munud sy'n adrodd hanes y goresgyniad Rhufeinig. Addas ar gyfer unrhyw grŵp oedran. Y lle gorau i ddechrau astudio'r Rhufeiniaid yng Nghymru.

Y Frwydr Dros Gymru
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Gwybodaeth

Map

Caerllion
Ar agor 10am–5pm Llun–Sadwrn, 2pm–5pm Sul.

Adran addysg:
(029) 2057 3546

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.