Rydych chi yn:  >   >   > 

Cyfnod Allweddol 2

Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2

Diwrnod Golchi

Amgueddfa Lechi Cymru

[delwedd: ]

Cyfle i'r plant gamu'n ôl i'r gorffennol a chwrdd â Margiad yr olchwraig sy'n brysur wrth ei gwaith.  Cyfle gwych i'r disgyblion chwarae rôl a dysgu am fywyd pob dydd merched yn oes Fictoria.

Hyd: 1 awr x 2
Dyddiadau: Chwefror 2 - 6 2015
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £47 am hyd at 15 disgybl, £77 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

History 1800-1900

Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2

Traddodiadau'r Nadolig

Amgueddfa Lechi Cymru

Sesiwn straeon Nadoligaidd o flaen y tân efo'r storïwraig Mair Tomos Ifans, cyfle i wneud addurn tymhorol i'w gludo adref ac i weld tai'r chwarelwyrwedi'u haddurno ar gyfer y Nadolig.

Hyd: 1 awr x 2
Dyddiadau: 2 - 4 a 9 - 11 Rhagfyr 2014
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £47 am hyd at 15 disgybl, £77 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Taith Chwarel Vivian

Amgueddfa Lechi Cymru

[delwedd: ]

Cyfle i fynd am dro tu hwnt i’r Amgueddfa at droed Chwarel Vivian a thuag at Ysbyty'r Chwarel, i glywed mwy am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau, ac i weld rhai o’r dyfeisiadau Fictoraidd blaengar fel y blondin a’r inclen.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £27 am hyd at 15 disgybl, £42 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2

Codi stêm!

Amgueddfa Lechi Cymru

[delwedd: ]

Cyfle i gyfarfod Una, ein locomotif stêm a darganfod mwy am y ddyfais Fictoraidd ryfeddol hon.

Hyd: 30 munud
Dyddiadau: Pob Mercher, Mawrth i Hydref
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4

Tu ôl i'r llenni yn yr Amgueddfa

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfres o weithgareddau ymarferol fydd yn helpu disgyblion i ddeall gwaith amrywiol yr Amgueddfa Lechi.

Hyd: 1 awr x 2
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Y Lôn Goed

Amgueddfa Lechi Cymru

[delwedd: ]

Taith dywys drwy lygaid ein Saer.  Cyfle i ddysgu mwy am y cwt sils, y craen coed, yr olwyn ddwr, y ffowndri a rhai o'n patrymau pren rhyfeddol.

Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Am ddimYn yr ysgol
Cyfnod Allweddol 2

Ymchwiliad bylbiau’r gwanwyn i ysgolion.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

[delwedd: ]

Plannwch fylbiau ar dir eich ysgol er mwyn astudio newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â’r ymchwiliad hwn
sy’n cael ei gynnal ledled y DU, a helpu i wella sgiliau rhifedd a gwyddoniaeth
yr un pryd. *Rhaid i bob ysgol wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn
cymryd rhan y mis Medi canlynol.

www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

Ffurflenni gais: https://scan.wufoo.com/forms/bylbiauar-gwanwyn-i-ysgolion-a-ffurflen-gais/

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Mis Medi – Mis Mawrth
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

CA2 Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth ac ADCDF