Rydych chi yn:  >   >   > 

Cyfnod Allweddol 2

Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2

Traddodiadau'r Nadolig

Amgueddfa Lechi Cymru

Sesiwn straeon Nadoligaidd o flaen y tân efo'r storïwraig Mair Tomos Ifans, cyfle i wneud addurn tymhorol i'w gludo adref ac i weld tai'r chwarelwyrwedi'u haddurno ar gyfer y Nadolig.

Hyd: 1 awr x 2
Dyddiadau: 2 - 6 Rhagfyr 2013
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £42 am hyd at 15 disgybl, £72 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i ysgolion yng Nghymru sydd â mwy nag 20% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Cyfnod Allweddol 2

Diwrnod Golchi

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfle i'r plant gamu'n ôl i'r gorffennol a chwrdd â Margiad yr olchwraig sy'n brysur wrth ei gwaith.  Cyfle gwych i'r disgyblion chwarae rôl a dysgu am fywyd pob dydd merched yn oes Fictoria.

Hyd: 1 awr x 2
Dyddiadau: Chwefror 3 - 7 2014
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £22 am hyd at 15 disgybl, £37 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i ysgolion yng Nghymru sydd â mwy nag 20% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Cwricwlwm

History 1800-1900

Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Taith Chwarel Vivian

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfle i fynd am dro tu hwnt i’r Amgueddfa at droed Chwarel Vivian a thuag at Ysbyty'r Chwarel, i glywed mwy am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau, ac i weld rhai o’r dyfeisiadau Fictoraidd blaengar fel y blondin a’r inclen.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £22 am hyd at 15 disgybl, £37 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i ysgolion yng Nghymru sydd â mwy nag 20% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Cyfnod Allweddol 2

Codi stêm!

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfle i gyfarfod Una, ein locomotif stêm a darganfod mwy am y ddyfais Fictoraidd ryfeddol hon.

Hyd: 30 munud
Dyddiadau: Pob Mercher, Mawrth i Hydref
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4

Tu ôl i'r llenni yn yr Amgueddfa

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfres o weithgareddau ymarferol fydd yn helpu disgyblion i ddeall gwaith amrywiol yr Amgueddfa Lechi.

Hyd: 1 awr x 2
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Y Lôn Goed

Amgueddfa Lechi Cymru

Taith dywys drwy lygaid ein Saer.  Cyfle i ddysgu mwy am y cwt sils, y craen coed, yr olwyn ddwr, y ffowndri a rhai o'n patrymau pren rhyfeddol.

Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Am ddimYn yr ysgol
Cyfnod Allweddol 2

Ymchwiliad bylbiau’r gwanwyn i ysgolion.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Plannwch fylbiau ar dir eich ysgol er mwyn astudio newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â’r ymchwiliad hwn
sy’n cael ei gynnal ledled y DU, a helpu i wella sgiliau rhifedd a gwyddoniaeth
yr un pryd. *Rhaid i bob ysgol wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn
cymryd rhan y mis Medi canlynol.

www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

Ffurflenni gais yn agor yn Ebrill 2014. 

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Mis Medi – Mis Mawrth
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

CA2 Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth ac ADCDF

Gwybodaeth

Map

Llanberis, Gwynedd
Ar agor 10am-5pm bob dydd (Pasg-Hydref), 10am-4pm Sul-Gwener (Tachwedd-Pasg)

Adran addysg:
(029) 2057 3717

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd