Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid babi, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Mynediad Cyffredinol

TCynlluniwyd pob arddangosfa yn yr Amgueddfa fel bod pawb yn medru eu mwynhau ac mae dehongliad Braille a BSL o nifer ohonynt.

Mae'r Cynorthwywyr Orielau hefyd wedi'u hyfforddi i ddehongli y casgliadau a'r arddangosiadau. Darperir mapiau print bras o'r Amgueddfa ar gais, cysylltwch â (029) 2057 3600.

Cadeiriau Olwyn

Mae mynediad cadeiriau olwyn i bob rhan o'r Amgueddfa. Darperir nifer fechan o gadeiriau olwyn, y cyntaf i'r felin gaiff falu. Gofynnwch i aelod staff wrth y Dderbynfa wrth gyrraedd.

Mae croeso i sgwters symudedd, ond dim ond nifer fechan allwn eu caniatáu ar y safle ar yr un pryd. Cysylltwch ar (029) 2057 3600 cyn ymweld.

Lifftiau

Mae mynediad cadeiriau olwyn i bob lifft yn yr Amgueddfa, cyhoeddiadau sain a labeli Braille ar y botymau. Mae dau lifft, un yn y Brif Neuadd a'r llall yng nghefn yr Oriel Newydd.

Toiledau a Chyfleusterau Newid Babi

Consortiwm Newid Lleoedd

Darperir toiledau anabl a chyfleusterau newid babi ar y llawr gwaelod (ger y caffi ac yng nghefn yr Oriel Newydd) ac ar y llawr cyntaf (Oriel Cyflawnwyr).

Mae'r Amgueddfa hefyd ar gofrestr swyddogol Consortiwm Newid Lleoedd gan fod ystafell newid a thoiled gwbl hygyrch ar gael yma.

Yr Ystafell Cymorth Cyntaf

Mae'r ystafell cymorth cyntaf ar y llawr gwaelod ac mae gwely newid a teclyn codi yno. Os ydych chi am ddefnyddio'r ystafell cymorth cyntaf, gofynnwch i aelod staff am gymorth.

Cŵn Tywys

Mae croeso i gŵn tywys, cŵn clywed a chŵn cymorth ym mhob rhan o'r Amgueddfa.

Teithiau Sain Ddisgrifio

Rydym yn cynnig teithiau sain ddisgrifio o’n horielau, mae’r teithiau hyn wedi’u hanelu’n benodol at ymwelwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu taith cysylltwch â: (029) 2057 3600 neu e-bostio glannau@amgueddfacymru.ac.uk

  • Am ddim.
  • Addas i gynulleidfa ddall neu rhannol ddall.
  • Rhaid archebu bythefnos ymlaen llaw.

Parcio

Mae pump lle parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas ar East Burrows Place. Mae’r rhain ar gael i ymwelwyr ar sail cyntaf i’r felin.

Rhagor o wybodaeth

Am help i gynllunio'ch ymweliad, cysylltwch â (029) 2057 3600 neu ebostiwch glannau@amgueddfacymru.ac.uk