Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ystafelloedd Cyfarfod y Ddinas a'r Glannau

Mae’r ystafelloedd golau hyn sydd wedi’u hawyru’n dda yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd brecwast, seminarau, diwrnodau hyfforddi neu giniawau preifat. Gellir trefnu llogi Ystafell Vivian fel man ychwanegol i gymdeithasu, cynnal gweithgareddau neu i gael lluniaeth.

[delwedd: ]

Theatr: 40-50 gwestai; Cyfarfod: 15-20 gwestai Ar gael yn ddyddiol 9am-5pm Prisiau o £100-180 + TAW

Cliciwch yma am ein Pecynnau Diwrnod i Ddirprwyon.

[delwedd: Ystafell Cyfarfod - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.