Digwyddiadau

DigwyddiadOnly Boys Aloud

Wedi'i Orffen
30 Mawrth 2014, 1pm a 2.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd

Ymunwch â ni i ddathlu Gŵyl Dewi gyda’r bechgyn uchel eu bri sy’n caru canu.

Bydd yr Amgueddfa dan ei sang wrth i fechgyn Castell-nedd, Maesteg a Cross Hands y côr berfformio detholiad arbennig o ganeuon!

Sefydlwyd y grŵp gan Only Men Aloud ym mis Mai 2010, gyda’u perfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy.

Ers hynny, maent wedi perfformio mewn llawer o ddigwyddiadau poblogaidd gan gynnwys yn Stadiwm y Mileniwm gyda’r Fonesig Shirley Bassey a Catherine Zeta Jones. Maent hefyd wedi bod yn destun dwy raglen ddogfen ac wedi perfformio ar Songs of Praise.

Ym mis Mai 2012, daethant yn drydydd yng nghystadleuaeth ITV, Britain's Got Talent. Yn ddiweddar, arwyddodd y grŵp gontract recordio gyda Relentless Records a Sony Music.

Only Boys Aloud
Digwyddiadau