Digwyddiadau

DigwyddiadFfair Nadolig ‘Vintage’

Wedi'i Orffen
7 Rhagfyr 2013, 10am – 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Galwch draw am wledd o hen bethau a nwyddau a wnaed â llaw i ddod o hyd i’r anrheg unigryw perffaith – i rywun arbennig neu i chi’ch hun!

Cewch ddewis o ategolion (dillad gaeaf a dillad parti), nwyddau’r cartref, teganau a gemau’r oes a fu, addurniadau Nadolig traddodiadol, clustogau o ddefnydd wedi’i ailgylchu, gemwaith a wnaed â llaw, cwiltiau, siytni a chacennau blasus, brodwaith, crochet, gweuwaith, canhwyllau perarogl a dodrefn Ffrengig ‘shabby chic’.

Bydd carolau o gwmpas y goeden, mins peis a gwin y gaeaf hefyd – ac mae mynediad am ddim!

Mewn partneriaeth â Smock Vintage.

Digwyddiadau