Digwyddiadau

DigwyddiadDiwrnod Astudio Josef Herman

Wedi'i Orffen
7 Medi 2013, 11am - 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Rhaid archebu lle. Ffôn: cost safonol (0300) 111 2 333

Ymunwch â Carolyn Davies, Is-gadeirydd Sefydliad Celf Josef Herman am daith o arddangosfa Josef Herman, Llafur, a chlywed am ddulliau mynegiadol yr artist. Yna bydd cyfle i arbrofi gydag ystod o ddeunyddiau graffig i ymateb i waith Herman.

Lluniwyd y diwrnod astudio ar gyfer pobl sydd eisiau cyflwyniad i waith Josef Herman a hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd celf ac ym meithrin eu sgiliau a'u dealltwriaeth.

Darperir yr holl ddeunyddiau. Does dim angen profiad.

Digwyddiadau