Digwyddiadau

Digwyddiad‘Shabby Chic’ i Arddegwyr: Llyfrau Lloffion a Blychau

Wedi'i Orffen
17 Awst 2013, 1.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Arddegwyr
Archebu lle Rhaid archebu lle. Ffôn: cost safonol (0300) 111 2 333

Ymunwch â’r dylunydd ffasiwn gwyrdd Helen Stew ar gyfer ein cyfres o weithdai ailgylchu wythnosol dros yr haf i droi hen betheuach yn ategolion deniadol.

Yn y sesiwn yma byddwn yn creu llyfrau lloffion unigryw i gadw’ch syniadau crefftau ac yn gweddnewid hen flychau esgidiau’n flychau cain yn gartref i’ch trysorau.

Byddwn yn defnyddio hen ddefnydd, papur wal, mapiau a llyfrau gyda rhubanau a botymau i’w gorffen.

Darperir deunyddiau, croeso i bawb o bob gallu.

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl yn eu harddegau yn bennaf.

Digwyddiadau