Cludiant yn y gorffenol

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch yn ôl mewn amser i gwrdd â Mr Trevithick, y dyn a ddyfeisiodd y trên stêm cyntaf, a chymryd rhan yn ei gyflwyniad bywiog. Defnyddiwch eich sgiliau datrys problem i’w helpu gyda’i broblemau peirianneg.

NEU

Cewch glywed stori syfrdanol Charles Horace Watkins, y dyn cyntaf i ddylunio ac adeiladu awyren yng Nghymru.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Dyddiadau ar gael ar gyfer 2016
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd.

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd: Llafaredd.

Geiriau ac Adenydd Y Cyfnod Sylfaen

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ydych chi'n hoffi ysgrifennu straeon? Dysgwch fwy am hanes rhyfeddol go iawn monoplan coch yr Amgueddfa, i’ch sbarduno i ysgrifennu’ch stori eich hun. 

Bydd Thomas Docherty, yr awdur a'r darlunydd lleol o fri, yn esbonio sut gall ffaith fod yn fan cychwyn delfrydol i chi fynd ar eich trywydd dychmygol eich hun.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd, Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd: Llafaredd, Ysgrifennu.

Môr-ladron Cymru- Y Cyfnod Sylfaen

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch i gyfarfod â’n môr-leidr cyfeillgar a chlywed am straeon dramatig y moroedd mawr. Defnyddiwch eich dychymyg i ddilyn hynt a helynt un o fôr-ladron enwocaf Cymru – Barti Ddu.

 

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Dyddiadau ar gael ar gyfer 2016
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd.

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd: Llafaredd.

Siopa yn y gorffenol

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch i weld sut beth oedd siopa ddechrau’r 20fed ganrif a gweld sut mae wedi newid. Cewch gwrdd â perchennog siop a chymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol i ddysgu am fywyd a gwaith yn y siop.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Ffoniwch am ddyddiadau.
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Hanes.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd.

Cwricwlwm Cymreig.

Mathemateg.

Teganau sy'n Symud

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch i ddysgu am bob math o deganau o Oes Fictoria hyd heddiw a gweld sut mae gwahanol fathau o rym a mecanwaith yn achosi iddyn nhw symud.

Bydd yna gyfle i ddefnyddio llwybr i weld casgliad yr Amgueddfa o deganau sy’n symud. Dewch i archwilio ,chwarae, dysgu a mwynhau.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Dyddiadau ar gael ar gyfer tymor yr Haf
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd.

Framwaith Llythrennedd a Rhifedd: Llafaredd.

Tywyllwch a Goleuni

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Gweithgareddau ac archwiliadau syml i ddeall golau a chysgodion gyda’r rapiwr gwyddoniaeth proffesiynol, Jon Chase.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd

Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd: Llafaredd