Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Locomotif stêm Richard Trevithick

Locomotif stêm Richard Trevithick

Loco Penydarren

Yr atgynhyrchiad o'r locomotif
Yr atgynhyrchiad o'r locomotif yn ei gartref presennol, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Ar 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr-Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond does dim amheuaeth nad Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.

Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori'n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a'u defnyddio yn ei injans ffordd.

Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i'r posibilrwydd o osod injan o'r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa'r gamlas yn Abercynon.

Richard Crawshay

Yr atgynhyrchiad o'r locomotif
Yr atgynhyrchiad o'r locomotif a'i wagenni bar haearn yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru ym 1983.

Mae'n debyg bod Trevithick wedi dechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl bob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o'r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini'r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p'un a allai'r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu'r wagenni gwag yn ôl wedyn.

Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror, a disgrifiodd Trevithick y daith yn fanwl:

"... ddoe aethom ar ein taith gyntaf gyda'r injan, gan dynnu deg tunnell o haearn mewn pum wagen, a saith deg o ddynion yn teithio arnynt ar hyd y ffordd ... tra 'roedd yr injan yn gweithio, teithiodd bron i bum milltir yr awr; ni roddwyd dŵr yn y boeler o'r cychwyn hyd ddiwedd y daith ... defnyddiwyd dau ganpwys o lo."

Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith nôl a barodd i'r boeler golli dŵr, felly bu'n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol. Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd — ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!

Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i'r cledrau, ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.

Atgynhyrchiad Locomotif

Crëwyd yr atgynhyrchiad o'r locomotif sydd yn yr Amgueddfa heddiw gan ddilyn dogfennau a chynlluniau gwreiddiol Trevithick, sydd yn y National Museum of Science and Industry bellach. Aeth ar ei thaith gyntaf ym 1981 ac, yn rhyfedd, cafodd yn union yr un broblem â'r injan wreiddiol — torrodd y cledrau!

Mae locomotif Trevithick yn anhygoel o bwysig — does dim dwywaith am hynny. Ym 1800, y ffordd gyflymaf i bobl deithio ar y tir oedd ar gefn ceffyl; ganrif yn ddiweddarach, roedd system reilffordd helaeth dros y byd gyda threnau'n teithio'n rheolaidd ar gyflymder o hyd at chwedeg milltir yr awr. Fe ddigwyddodd y trobwynt hollbwysig hwn ym mis Chwefror 1804, yng Nghymru.

Locomotif Penydarren: Diwrnod Stemio

Ffilm dogfennu stemio locomotif Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Locomotif stêm Richard Trevithick yn nodwedd yn y llyfr: Llyfr bach am beiriannau mawr gan Amgueddfa Cymru, 2008

Dyddiad yr erthygl: 15 Rhagfyr 2008

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar