Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Mwynau a ddarganfuwyd gyntaf yng Nghymru

Mwynau a ddarganfuwyd gyntaf yng Nghymru

anglesite
Crisialau anglesit hyd at 10mm o hyd o'i deipleoliad ym Mynydd Parys, Môn. Ffoto MP Cooper.
brookit
Crisial brookit 20mm o led o'i deipleoliad ym Mhrenteg, Gwynedd. Ffoto MP Cooper.
cymrite
Micrograff electronig archwiliol o grisialau prismatig cymrit o'i deipleoliad yng nghloddfa Benallt, Rhiw, Pen Llŷn.
Dicit
Dicit powdrog sy'n ffurfio caen ar ddolomit o'i deipleoliad yn Nhrwyn Bychan, Môn. Ffoto MP Cooper
namuite
Teipsbesimen namuwit o gloddfa Aberllyn, Betws-y-coed.

Mae dros 430 math gwahanol ar fwynau'n digwydd yng Nghymru sef tua deg y cant o'r rhai hysbys. Cafodd unarddeg mwyn eu darganfod gyntaf yng Nghymru a'u henwi ar ôl daearegwyr, mwynolegwyr a llefydd yma a hyd yn oed ar ôl yr Amgueddfa ei hun sef

  • anglesit
  • banalsit
  • bramalit
  • brinrobertsit
  • brookit
  • cymrit
  • dicit
  • lanthantit-(Ce)
  • namuwit
  • pennantit a
  • steverustit

Darganfuwyd Brookit (ocsid o ditaniwm) gyntaf tua 1809 yn y gogledd. Fe'i enwyd yn 1825 ar ôl y crisialegwr a mwynolegwr o Brydain, Henry James Brooke (1771-1857) gan y mwynolegwr o Ffrainc, Armand Lévy.

Ym 1783 disgrifiodd y Parchedig William Withering rywogaeth nwydd, plumbum (plwm) wedi'i fineraleiddio gan asid fitriolig a haearn, oedd i'w ganfod yn helaeth ar Ynys Môn. Wedyn ym 1832 cynigiodd y mwynolegydd o Ffrainc Francois Sulpice Beudant yr enw anglesit am sylffad plwm gan gofio ei leoliad gwreiddiol, ac mae'r enw hwn wedi aros.

Ym 1930 enwyd mwyn clai newydd dicit ar ôl y cemegydd metelegol o'r Alban, Allan Brugh Dick (1833-1926) a gyhoeddodd ddisgrifiad manwl o'i briodoleddau ar sail deunydd o Drwyn Bychan, Môn.

Enwyd mwyn clai arall bramalit ar ôl Alfred Brammall (1879-1954) gynt o'r Adran Ddaeareg, Coleg yr Ymerodraeth, Llundain. Ym 1943 disgrifiodd enghraifft o Landybïe, Sir Gâr.

Yn ystod y 1940au cafwyd ymchwil drylwyr yn y cloddfeydd manganîs yn Rhiw, Pen Llŷn lle danganfuwyd sawl math newydd yng nghloddfa Benallt. Enwyd y cyntaf, banalsit, oherwydd ei gyfansoddiad o'r mwynau canlynol: bariwm (Ba); sodiwm (Na); alwminiwm (Al) a silicad (Si).

Ym 1946 cafodd y naturiaethwr enwog o Gymru, Thomas Pennant (1726-1798) ei gydnabod drwy enwi mwyn manganîs clorit penantit ar ei ôl. Ym 1949 enwyd ffelsbar bariwm hydradol cymrit ar ôl Cymru.

Ym 1982 darganfuwyd hydrocsid sinc a sylffad copor hydradol newydd ar hen sbesimen yn yr Amgueddfa o gloddfa Aberllyn ger Betws-y-coed. Fe'i enwyd yn namuwit ar ôl rhan Saesneg enw'r Amgueddfa yn llawn sef Amgueddfa Cymru - National Museum Wales. Erbyn hyn ystyrir enwi mwyn ar ôl sefydliad yn amhriodol ond mae'r enw'n aros gan wneud y mwyn hwn yn anarferol iawn.

Ym 1985 disgrifiwyd lanthanit gyda llawer o seriwm ynddo o gloddfa Britannia ar yr Wyddfa a'i enwi'n lanthanit-(Ce) .

Canfuwyd mwyn clai newydd a ger Bangor yn 2002. Enwyd hwn yn brinrobertsit ar ôl Brinley Roberts, Prifysgol Llundain sydd wedi cyhoeddi'n eang am ddaeareg y gogledd.

Y mwyn diweddaraf i gael ei ddarganfod yng Nghymru yw'r thiosylffad plwm prin sy'n ffurfio mewn tomeni mwyngloddiau mewn sawl lleoliad yng Nghanolbarth Cymru. Rhoddwyd yr enw steverustit iddo yn 2009, ar ôl y gŵr a'i darganfu, Steve Rust. Mae yntau'n gasglwr micromineralau sydd wedi bod wrthi am y rhan fwyaf o'i oes yn canfod ac adnabod mwynau ôl-fwyngloddio anarferol ym Maes Mwynau Canolbarth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am y mwynau hyn ac eraill o Gymru ewch i wefan Mwynoleg Cymru'r Amgueddfa .

Erthygl gan: Tom Cotterell, Uwch Curadur

Dyddiad yr erthygl: 29 Mehefin 2009

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Geirfa

MSE (Microsgop Sganio Electron)
Microsgop sy'n defnyddio pelydr electron wedi'i ffocysu'n fanwl a'i sganio ar draws sampl i gynhyrchu delweddau o eglurder uchel. Gall MSE gydrannu nodweddion llawer llai na microsgop cyffredin, mor fanwl â thua 2 nanometr.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar