Rydych chi yn:  >   > 

Croeso i Lyfrgell Amgueddfa Cymru


Llyfrgell Amgueddfa Cymru

Rydym ni'n helpu staff curadurol yr Amgueddfa gyda'u gwaith, ond hefyd yn rhoi mynediad i ymchwilwyr allanol trwy apwyntiad.

Mae cynnwys ein Llyfrgell yn adlewyrchu natur amrywiol casgliadau Amgueddfa Cymru, gan gwmpasu pynciau megis:

Archaeoleg
Celfyddyd Gain a Chymhwysol
Hanes Cymdeithasol a Diwydiannol
Y Gwyddorau Naturiol
Astudiaethau Amgueddfa

Pan sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru, penodwyd y Llyfrgellydd cyntaf ym 1914, dair blynedd ar ôl dechrau gwaith adeiladu'r Amgueddfa.

Yn y 1920au fe symudwyd casgliad gwreiddiol y Llyfrgell i lyfrgell a godwyd yn arbennig. Yn ddiweddarach fe symudwyd llawer o ddeunydd perthnasol i'r adrannau unigol er mwyn creu llyfrgelloedd adrannol.

Erbyn hyn, yr ystafell wreiddiol yw'r Prif Lyfrgell neu'r Llyfrgell Gyffredinol, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Yn ogystal â'r deunydd cyfair cyffredinol a'r casgliad am amgueddfeydd, mae'r Prif Lyfrgell yn cynnwys yr holl lyfrau cyn 1701, ynghyd â nifer o gasgliadau arbennig eraill, er enghraifft casgliad Willoughby Gardner o lyfrau cynnar am fyd natur.

Mae gan wahanol safleoedd yr Amgueddfa lyfrgelloedd, a gellir gwneud gwaith ymchwil yno drwy apwyntiad:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw.

Mae tri aelod llawn-amser a dau aelod rhan-amser yn gweithio ym Mhrif Lyfrgell yr Amgueddfa ac mae un aelod o staff yn gweithio yn Sain Ffagan hefyd.

Dewiswch gategori isod i ddysgu mwy am gasgliadau'r Llyfrgell:

Casgliadau Adrannol

Casgliadau Arbennig

Casgliadau Eraill


Am wybodaeth ynglŷn â mynediad at y casgliadau gwelwch Gwasanaethau.

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.