Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Y Coroni

Eluned Phillips, enillydd y Goron, y Bala, 1967
Eluned Phillips, enillydd y Goron, y Bala, 1967. Gwyndaf oedd yr Archdderwydd.

Un o'r tair prif seremoni sy dan ofal Gorsedd y Beirdd ar lwyfan y Brifwyl, pan goronir y bardd buddugol am gyfansoddi pryddest neu ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn. Ar ddydd Llun y cynhelir seremoni'r Coroni.

Yn 1867 cyhoeddodd Hwfa Môn oddi ar y Maen Llog:

'bod urdd newydd i gael ei ffurfio i'r Bryddest, a hono yn urdd coronog …'

Erbyn troad yr ugeinfed ganrif yr oedd y patrwm hwn o gadair a choron wedi ymsefydlu. Disgrifia Eluned Phillips, bardd coronog 1967 a 1983, y profiad o orfod 'Cadw'r Gyfrinach' iddi ennill y brif wobr:

'… gorfu i mi droi'n feudwy absoliwt. Collais o leiaf 12 pwys o gnawd … Doeddwn i ddim am ddweud celwydd felly rhaid oedd turio o'r goleuni fel gwahadden'.
Ac ar y llwyfan ei hun, 'Fedrwn i yn fy myw beidio â cholli deigryn … Rhaid byw trwy'r profiad cyn amgyffred yr ecstasi eithaf.'

Ers yr 1950au rhaid cynnwys y Nod Cyfrin ymhob cynllun ar gyfer Coron Genedlaethol.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.