Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Cân y Cadeirio

Lawrlywthio'r MP3 (3.1MB):
can_y_cadeirio.mp3
Wedi coroni'r bardd buddugol cenir Cân y Coroni, y geiriau gan Geraint Bowen. Dyma flas o'r pennill cyntaf a'r olaf.

Cenir Cân y Cadeirio i gyfarch y prifardd newydd ar lwyfan y Brifwyl.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1926, y clywyd canu Cân y Cadeirio, y geiriau gan Cynan ar yr alaw 'Capten Morgan' am y tro cyntaf, pan gadeiriwyd Gwenallt am ei awdl 'Y Mynach'.

Tom Gwanas sy'n canu yma, yn seremoni gadeirio Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 2004.

"Henffych i'r Prifardd ar fuddugol hynt,
Seiniwch ei enw i'r pedwar gwynt.
Hwn ydyw brenin beirdd yr Ŵyl i gyd
Cenwch yr utgorn i bedwar ban byd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.

Cenwch, gyd-wladwyr, heddiw'n ddiwahardd;
Cenwch wrogaeth i Gadair y Bardd.
Gorsedd dehonglwr ein breuddwydion mud,
Gorsedd y Gwir yn erbyn y Byd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.

Ninnau, gymrodyr, eiliwn ein boddhad;
Calon wrth galon yw cri'r Corn Gwlad.
Llygad goleuni beunydd ar ei lwydd,
Duw a daioni iddo'n rhwydd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd."
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.