Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Profiadau Prifardd

Lawrlwytho'r MP3 (3.2MB):
experience_cymraeg.mp3
Yn 2001, Mererid Hopwood oedd y ferch gyntaf i ennill y Gadair. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd y Goron. Gwrandewch ar ei phrofiadau.

Dr Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r cyffiniau, 2001. Aeth yn ei blaen i ennill y Goron ym Maldwyn a'r Gororau, 2003. Yma mae'n cloriannu'r profiadau gyda Catrin Stevens:

Pan on i yn y tywyllwch yn y pafiliwn yn gwrando ar y feirniadeth a wedyn, wrth gwrs, yn gwrando ar yr Archdderwydd Meirion yn galw fy ffugenw, 'Llygad y Dydd', alla i fod yn siwr fod 'na neb yng Nghymru yn fwy nerfus nag on i'n teimlo y prynhawn hwnnw. Odd hi'n brofiad, wel, fythgofiadwy. … Ond na wir, a wedyn, wrth gwrs, ma'r Corn Gwlad yn atsain a ma'r dorch fawr 'na a'r gole, y llifoleuade'n dod i chwilio amdanoch chi a wedyn ma rhaid penderfynu - CODI -. A wedyn wrth gwrs ma pawb yn troi pen i weld pwy sy wedi codi a dw i'n credu mai dyna'r eiliad ych chi'n sylweddoli, 'O diar mi!', chmbod, ma lot o sylw yn dod yn sgil ennill rywbeth fel 'na.

Catrin: A beth am y galw allan 'A oes Heddwch?'. Oedd hwnna'n bwysig i chi?

Mererid: Ie, odd e yn bwysig, dw i'n meddwl bod hwnna'n beth bendigedig, mae uchafbwynt ein seremoni yng Nghymru yw gofyn am 'Heddwch'. Bo ni'n rhoi'r ffasiwn bwyslais ar air a chysyniad sydd mor, mor bwysig - Heddwch yntefe? A oes Heddwch?. … Pump od odd Llywelyn a dodd e ddim ishe bod yn y pafiliwn a rhyw hanner cysgu trwy'r rhan fwya o'r feirniadeth a dweud y gwir a wedyn dihuno jyst mewn pryd i weld 'i fam yn cael 'i llusgo ymaith gan ddynion mewn ffroge gwyn a wedyn cyrraedd y llwyfan. Mae'n debyg 'i fod e wedi bod yn eitha didaro am y peth nes welodd e Ray o'r Mynydd, Ceidwad y Cledd a'r Cleddyf Mawr. A dyma fe'n troi at Martin ac yn dweud, 'Beth ma'r boi 'na 'neud â'r cleddyf uwchben Mami?' A Martin yn ei, wel, beth ddweda i, yn ei ddwli mawr, yn dweud wrth Llywelyn, 'Os na weiddi di "Heddwch" byddan nhw'n torri'i phen hi bant'. Ac mae'n debyg bod chi wedi gallu clywed Llywelyn yn gweiddi 'Heddwch' o Gaerdydd er bo' ni yn Ninbych. Dw i'n taeru mod i wedi'i glywed e uwchben y gynulleidfa i gyd. Druan o Llywelyn. Ond mae e wedi dod dros y trawma!'

Catrin: Yn sgil ennill y Gadair och chi'n cael eich derbyn yn aelod o'r Orsedd. Nawrte, beth yw'ch enw barddol chi a beth mae hynny'n ei olygu i chi?

Mererid: Wedi i chi ennill unrhyw un o'r prif wobre yn y seremonïe lle mae'r Orsedd yn cymryd rhan, ych chi'n cal gwahoddiad i ymuno â'r Orsedd a ych chi'n cal mynd i'r Wisg Wen os ych chi'n ennill y Goron, y Fedal neu'r Gader. A nid jyst y Wisg Wen ond ych chi'n cal dail ar 'ch pen hefyd; felly mae'n wisg hynod iawn. A ges i'n nerbyn ar ôl ennill y Gader - a'n enw i yn syml yw 'Mererid' neu'r Prifardd Mererid, dw i'n meddwl, a bod yn fanwl gywir. Ond erbyn hyn dw i wedi newid 'n lliw achos erbyn hyn dw i mewn gwisg lliw hufen am fy mod i wedi derbyn gwahoddiad i ofalu am y Celtiaid a wedyn yn sgil hynny dw i'n cael gofalu am y criw sy'n dod o'r chwech chwaer wlad ac yn aros gyda ni dros wythnos yr Eisteddfod a cheisio helpu rhywfaint bach ar y trefniade pan fydd 'n cynrychiolwyr ninne yn mynd i'w gwylie nhw.

(Hawlfraint: Amgueddfa Werin Cymru)

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.