Gweledigaeth a Chymhellion Iolo Morganwg

Lawrlwytho'r MP3 (4MB):
iolo_morganwg.mp3
Dr Cathryn Charnell-White, o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn egluro cymhellion Iolo Morganwg.

Dr Cathryn Charnell-White, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, sy'n egluro dechreuadau Gorsedd y Beirdd wrth Catrin Stevens:

'Wel, i ddechre, odd yr Orsedd yn rhan o weledigeth ehangach, gweledigeth mwy - beth odd Iolo'n galw yn Barddas, sef ei weledigeth farddol neu dderwyddol. Odd e wedi bod yn astudio'r traddodiad barddol Cymraeg dilys ond oedd e hefyd wedi bod yn astudio hanes y derwyddon. Ac wedyn fe gyflwynodd e fersiwn o hanes y traddodiad barddol Cymreig oedd yn rhoi lle canolog i'r derwyddon. Ac oedd e'n syniad eitha cyffredin fod yn beirdd Cymreig yn ddisgynyddion y derwyddon a'u bod nhw felly yn geidwaid holl dysg, doethineb a gwareiddiad y Cymry. Felly i Iolo rhyw fath o gymdeithas ddiwylliannol odd yr Orsedd, cymdeithas fydde'n diogelu traddodiade'r Cymry ac yn eu trosglwyddo nhw o genhedleth i genhedleth.

Yr eironi yw - odd Gorsedd Iolo Morganwg yn rhywbeth eitha syml. Odd yr Orsedd gynta yn 1792, roedd yr holl orseddogion yn gorfod mynd yn droednoeth i'r cylch ac doedd dim cylch o gerrig mawr mawreddog, dim ond llond llaw o gerrig mân oedd gyda fe'n ei boced a gosododd e rheiny a fe nath e'r un peth wedyn yn 1819 yng Nghaerfyrddin. Felly seremonïe syml iawn oedden nhw a doedd ganddyn nhw ddim gwisgoedd mawreddog 'chwaith - dim ond ysnoden (neu armband) lliw oedd y gorseddogion yn gwisgo bryd hynny …

Mae'n bwysig i gofio fod Derwyddiaeth yn bwnc poblogaidd, hynod ffasiynol yn y ddeunawfed ganrif … ond fe impiodd e syniade modern ar y traddodiad hynafol yma, sef gwleidyddiaeth gyfoes … felly mae cydraddoldeb, heddychiaeth, rhyddid yn elfenne hynod o bwysig yn yr Orsedd.

Catrin: Ond fe wnaeth e ddyfeisio, mewn gwirionedd, sefydliad newydd i Gymru. Beth oedd ei gymhellion e dros wneud hynny?

Cathryn: Gyda Iolo, mae'n anodd iawn tynnu Iolo Morgannwg ei hun allan o'r Orsedd - achos, chmbod, roedd e'n gymeriad mor unigryw ac mae'r Orsedd ei hun yn sefydliad mor unigryw, ond - yn fwy na dim oedd e'n ymateb i ragfarne ac ystrydebe cyfoes ynglŷn â Chymru. Os edrychwch chi ar y wasg boblogaidd … mae lot o hwyl yn cael ei wneud am ben yr iaith Gymraeg, diwylliant Cymraeg, tradoddiade a chymeriad y Cymry ac odd Iolo Morganwg yn rywun oedd yn teimlo pethe i'r byw; odd e bron fel petai Cymru a Morgannwg yn estyniad ohono fe'i hun. Felly, yn gyntaf, beth oedd yr Orsedd yn gwneud oedd amddiffyn Cymru a'r Cymry yn erbyn y rhagfarne hyn. … Ei gymhellion erill, eto mae hyn yn rhywbeth personol iawn, oedd dyrchafu Morgannwg. Odd e'n Gymro i'r carn ond odd e hefyd yn un o wŷr Morgannwg. … A beth geisiodd e wneud trwy'r Orsedd oedd profi dyfnder dysg a hynafiaeth traddodiade Morgannwg, i radde oherwydd bod e wedi digio wrth ei ffrindie William Owen Pughe a Owain Myfyr oedd yn aelode blaenllaw o'r Gwyneddigion, un o gymdeithase Cymry Llunden … Felly oedd gyda fe sawl cymhelliant, un cenedlaethol, un fwy lleol wedyn ond, fel wedes i, mae'n anodd tynnu Iolo Morganwg allan o'r darlun oherwydd, mewn gwirionedd, Iolo Morganwg yw canolbwynt yr Orsedd.

(Hawlfraint: Amgueddfa Werin Cymru)

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.