Cylchrawn Gorsedd y Beirdd

  1. Y Corn Gwlad, Cylchgrawn Blynyddol Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod 1949-50
    dan olygyddiaeth y prifardd John Eilian gyda llun yr Archdderwydd Wil Ifan ar y clawr. Hanner coron oedd ei bris. Cyhoeddwyd gan Hughes a'i fab.
    Cynhwysai erthyglau am regalia'r Orsedd, straeon, cerddi, cerddoriaeth a maes llafur arholiadau'r Orsedd ymhlith eitemau eraill. Un rhifyn yn unig a gyhoeddwyd.

  2. Unig rifyn y cylchgrawn Y Corn Gwlad, 1989.
    Unig rifyn y cylchgrawn Y Corn Gwlad, 1989.

    Y Corn Gwlad, Cylchgrawn Gorsedd y Beirdd Rhif 1, 1989
    dan olygyddiaeth y Prifardd Eirwyn George a'r Parchedig Rhys Nicholas. Ynddo roedd erthyglau safonol ar faterion gorseddol megis yr olyniaeth archdderwyddol, y regalia, helyntion y ddau hanner cleddyf ac adran farddoniaeth. Costiai'r cyhoeddiad swmpus £2 50 a chyhoeddwyd ef gan Wasg Gee. Unwaith eto, un rhifyn yn unig a gyhoeddwyd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.