Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English

Detholiad o gerddi a rhyddiaith arobryn

Tudalen gyntaf cerdd Hedd Wyn 'Yr Arwr' yn ei lawysgrifen ei hun.
Tudalen gyntaf cerdd Hedd Wyn 'Yr Arwr' yn ei lawysgrifen ei hun.
Cadair Ddu, Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917
Cadair Ddu, Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917
  1. Seremoni'r Cadeirio: darn o 'Ymadawiad Arthur' gan T. Gwynn Jones, enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902; cerdd a roddodd gyfeiriad newydd a rhagorach i farddoniaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

    "Draw dros y don mae bro dirion nad ery
    Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
    Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
    A ddêl i'w phur, rydd awel, a phery
       Pob calon yn hon yn heiny a llon,
    Ynys Afallon ei hun sy felly.

    Yn y fro ddedwydd mae hen freuddwydion
    A fu'n esmwytho ofn oesau meithion;
    Byw yno byth mae pob hen obeithion,
    Yno, mae cynnydd uchel amcanion;
       Ni ddaw fyth i ddeifio hon golli ffydd,
    Na thro cywilydd, na thorri calon.

    Yno, mae tân pob awen a gano,
    Grym, hyder, awch pob gŵr a ymdrecho;
    Ynni a ddwg i'r neb fyn ddiwygio,
    Sylfaen yw byth i'r sawl fyn obeithio;
       Ni heneiddiwn tra'n noddo - mae gwiw foes
    Ac anadl einioes y genedl yno!"

    (Hawlfraint: trwy ganiatâd Ystad ac etifeddion T. Gwynn Jones)

  2. Seremoni'r Cadeirio: tudalen gyntaf cerdd fuddugol Hedd Wyn 'Yr Arwr' yn Eisteddfod Penbedw, 1917 yn ei lawysgrifen ei hun. Ganwyd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, ar fferm yr Ysgwrn, Trawsfynydd yn 1887. Bugail oedd wrth ei grefft ond barddoniaeth a ai â'i fryd ac enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol. Daeth yn ail am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1916. Yna, ddechrau 1917, cafodd ei alw i ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig ac wedi cyfnod yn hyfforddi fe'i anfonwyd i ymladd ar y ffin rhwng Ffrainc a Gwlad Belg. Cafodd ei ladd ym Mrwydr Cefn Pilkem ar Orffennaf 31, 1917. Yn y cyfamser roedd wedi cyfansoddi awdl ar y testun 'Yr Arwr' a'i hanfon, dan y ffugenw 'Fleur de Lys', i Eisteddfod Genedlaethol Penbedw i'w chynnal ym mis Medi, 1917.

    T.Gwynn Jones draddododd y feirniadaeth a chyhoeddodd mai 'Fleur de Lys' oedd yn fuddugol. Yna cyhoeddwyd y newyddion trist fod y buddugwr wedi'i ladd a gorchuddiwyd Cadair ddu Penbedw â mwrning. I ddiweddu'r seremoni cydganodd y gynulleidfa yr emyn angladdol 'Bydd myrdd o ryfeddodau'.

    Tyfodd y bardd ifanc talentog a dorrwyd i lawr ym mlodau ei ddyddiau yn eicon cenedlaethol.

    (Hawlfraint: Bangor MSS. 23333, Archifdy Prifysgol Cymru, Bangor)

  3. Seremoni'r Coroni: darn o bryddest arobryn Mererid Hopwood 'Gwreiddiau', a enillodd iddi Goron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, 2003:

    GWREIDDIAU

    a'r pren ar y bryn
    a'r bryn ar y ddaear
    a'r ddaear
    ar ddim.

    Unwaith, amser maith a mwy yn ôl,
    i fyd yn llawn dyfodol,
    fe aned mewn dwy fynwes
    un wên fach -
    a hynny ar hap.

    A heb yn wybod
    plannwyd hedyn
    o ryfeddod
    mewn dwy galon.

    Daeth yn sydyn,
    mas o ddim,
    i fwrw'i wreiddyn.

    Ac un diwrnod,
    heb ofyn,
    daeth blaguryn

    yn fory i gyd …

    unwaith, amser maith a mwy yn ôl.

    (Hawlfraint Mererid Hopwood)

  4. Y Fedal Ryddiaith: darn o gyfrol fuddugol Angharad Price, O! tyn y gorchudd, (Llandysul: Gwasg Gomer, 2002) a enillodd iddi Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi, 2002.

    Stori Rebecca Jones o Dynybraich, Cwm Maesglasau yn Sir Feirionnydd ydyw ac yn y rhan hon disgrifia'r profiad o weld ei dau frawd bach dall yn cael eu hebrwng i ffwrdd i ysgol breswyl:

    "Flwyddyn yn ddiweddarach, fy nhad sydd i hebrwng ei ddau fab i ysgol ragbaratoi ar gyfer plant dall yn y Rhyl. Mae'r naill yn bump oed a'r llall yn dair a hanner.
    Ar doriad gwawr rhyw fore Sadwrn ym mis Medi 1913 dyna ni'n sefyll yn gylch amherffaith ar fuarth Tynybraich. Gruff a Wili â bag yr un ar draws eu hysgwyddau. Ynddo mae eu hanghenion: ambell ddilledyn; sanau; pecyn o fwyd; cadach gwlanen; darn o sebon a chrib.
    Cusan gan Mam ar eu boch. Bob yn ysgwyd llaw yn wrol. Minnau'n eu cusanu, ac yn camu o'r neilltu.
    Esgynnant i ben y drol ac eistedd y tu ôl i'm tad. Closiant. Cydiant yn nwylo'i gilydd. Ymgynghreiriant. Ni ddaw gair gan fy nhad, ond am huodledd ei gefn mud.
    Hwb i'r gaseg, a dyna gychwyn y daith ar draws y buarth, ac i lawr rhiw Tynybraich. Ni thrônt yn ôl atom yn ein tywyllwch. Beth fyddai diben hynny, a'u holl weld yn deimlo?
    Safwn ninnau yn gwylio mudiant y drol trwy las y bore bach. Tair delw lonydd, lwyd yn syllu i wacter y cwm; ac yn syllu ar dair delw arall sy'n pellhau oddi wrthynt.'

    (Hawlfraint: trwy ganiatâd Gwasg Gomer)