Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Yr Arwyddfardd

T.H.Thomas yn arwain gorymdaith Gyhoeddi Llangollen 1907.
T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd (1895-1915) yn arwain gorymdaith Gyhoeddi Llangollen 1907.

Yr Arwyddfardd sy'n gofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd. Mae'n gyfrifol am orymdeithiau'r Orsedd a chynorthwyo'r Cofiadur gyda chyfarwyddo'r seremonïau. Caiff yntau'i gynorthwyo gan swyddogion eraill yr Orsedd: y Trefnydd Arholiadau, Meistres y Gwisgoedd a'i benodiadau ei hun - y Disteiniaid.

Swydd a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydoedd. Yn sicr T.H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, a'r Arwyddfardd rhwng 1895-1915 a ddylanwadodd fwyaf ar seremonïau'r Orsedd. Trwy ei chwaeth artistig neilltuol diwygiodd a thrawsnewidiodd ei gwisgoedd a'i regalia a Chylch yr Orsedd.

Arweiniai Sieffre o Gyfarthfa (y Capten Geoffrey Crawshay), Arwyddfardd 1925-1947, orymdeithiau'r Orsedd yn ddramatig iawn ar gefn ceffyl a gwisgai wisg marchogaeth ysblennydd. Cyhoeddodd nifer o bamffledi, â'r teitlau 'Aelodaeth', 'Seremoni'r Urddo' a.y.y.b. yn ystod ei dymor. Ar ei ymddeoliad yn 1947 cyflwynodd wialen bwrpasol at ddefnydd yr Arwyddfardd.

Cyhoeddodd Dilwyn Cemais, Arwyddfardd 1966-1996 lyfr gwerthfawr yn Saesneg ar hanes Gorsedd y Beirdd, The Secret of the Bards of the Isle of Britain (Gwasg Dinefwr Press, 1992) a llyfr o'i atgofion, Atgofion Hen Arwyddfardd (Gwasg Gee, 1997).

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.