Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Amgueddfa Cymru

Yr Archdderwydd

[delwedd: Portread mewn olew o'r Archdderwydd Hwfa Môn gan Christopher Williams.]

Portread mewn olew o'r Archdderwydd Hwfa Môn gan Christopher Williams.

[delwedd: Cadfan, yma fel Bardd yr Orsedd (1908)]

Cadfan, yma fel Bardd yr Orsedd (1908), ond a fu'n Archdderwydd 1923-24.

[delwedd: 'The Clwydfardd National Fund' 1889]

'The Clwydfardd National Fund', 1889. Darn o'r testun: 'A serious pecuniary "unmerited misfortune" through a very recent bankruptcy of a near relative has greatly affected Clwydfardd's circumstances.'

Yr Archdderwydd yn ei regalia ysblennydd yw canolbwynt holl ddefodau'r Orsedd ac ef/hi sy'n llywyddu'i seremonïau. Mae ef/hi yn oruchaf yn yr holl Orseddau eraill ac ef/hi sy'n cadeirio Bwrdd yr Orsedd.

Nid oedd Iolo Morganwg, tad Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yn arddel y teitl hwn ei hun. Wrth gynnal ei Orsedd gyntaf yn 1792 galwai'i hun yn 'Brif Fardd' a'r 'Bardd Gweinyddol' ydoedd yng Ngorsedd Caerfyrddin, 1819.

Cyn hir, er hynny, dechreuodd ambell lywydd yng ngorseddau'r eisteddfodau taleithiol ddefnyddio'r term 'archdderwydd' ond Clwydfardd a gyfrifir yr Archdderwydd swyddogol cyntaf. Mynnai ef:

'Penodwyd fi yn Archdderwydd … yn y flwyddyn 1860; ond yn Eist. Wrexham yn y fl. 1876 y cefais fy nhrwyddedu yn Archdderwydd Gorsedd … Beirdd Ynys Prydain.'

Bu'n dal y swydd am weddill ei oes.

Mae'r llu delweddau gweledol o'i olynydd, Hwfa Môn, (Rowland Williams) (1895-1915) yn tystio iddo dyfu'n eicon cenedlaethol.

Ers 1936 tair blynedd yw hyd tymor swydd archdderwydd ond dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd bu Crwys (W.Crwys Williams) yn Archdderwydd am wyth mlynedd. Dim ond un Archdderwydd, sef Cynan (1950-54; 1963-66) sy wedi gwasanaethu am fwy nag un tymor. Fel y dwedodd Tilsli amdano, 'i lawer o bobl ef yn wir oedd Gorsedd y Beirdd' ac ef a wnaeth ddefodau'r Orsedd 'yn gredadwy a lliwgar'.

Trwy ddylanwad Cynan yn Abergwaun, 1936, y cafwyd trefn ar seremoni urddo'r Archdderwydd pryd y caiff ei h/arwisgo â choron, dwyfronneg, teyrnwialen a modrwy ei swydd.

Yn 1932 sefydlwyd rheol fod yn rhaid i Archdderwydd fod yn brifardd cadeiriog neu goronog. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain cytunwyd i gynnwys Prif Lenorion ymysg yr ymgeiswyr posibl a'r cyntaf i'w ethol o dan y drefn hon oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002-2005). Tua'r un cyfnod newidiwyd y drefn bleidleisio i gynnwys holl aelodau'r Orsedd ac nid Bwrdd yr Orsedd yn unig.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.