Y Flodeuged (gynt yr Aberthged)

Tusw neu ysgub o flodau'r maes, ŷd a gweiriau yn symbol o dir a daear Cymru ac a gyflwynir gan forwyn ifanc o fro'r Eisteddfod i'r Archdderwydd yn sermonïau'r Orsedd yw'r Flodeuged. Mae'n symbol o ddymuniad ieuenctyd Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod Genedlaethol. Derbynnir enwebiadau ar gyfer bod yn gyflwynwraig ac fe'i dewisir gan banel o Orseddogion.

Does dim sicrwydd pryd y dechreuwyd cynnwys y ddefod hon ond ddechrau'r ugeinfed ganrif cyflwyno'r Aberthged oedd yr ymadrodd a ddefnyddid. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn dewisid menywod a gwragedd dynion adnabyddus yn Gyflwynwyr e.e. Mrs Tom Ellis (Cyhoeddi Caernarfon 1905) ac Olwen Lloyd George (Caerfyrddin 1911).

Yn 1923 y cafodd y clogyn coch Celtaidd a gynlluniwyd gan Arlunydd Pen-y-garn ei ddefnyddio gyntaf . Rhoddwyd penwisg aur gan Oswyn Afan.

Aeth Cynan ati yn y tridegau/pumdegau i fireinio'r seremoni trwy gyflwyno'r Ddawns Flodau a'i chyplysu â'r Aberthged.

Tua'r flwyddyn 1972, gan nad oedd y term 'Aberthged' yn gymeradwy bellach, mabwysiadwyd y teitl 'Cyflwyno'r Flodeuged'.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.