Urddwisg a Regalia'r Archdderwydd

Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards.
Yr Archdderwydd Brinli (1972-75); Brinley Richards.

Pan urddir Archdderwydd newydd caiff ei arwisgo â theyrnwialen, coron, dwyfronneg a modrwy ei swydd.

Het ar ffurf meitr esgob ag arni'r Nod Cyfrin oedd gan yr Archdderwydd cyntaf, Clwydfardd yng Nghaernarfon yn 1894, ond nid oedd y penwisg hwn yn gymeradwy gan Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd newydd a'r cynllunydd yr Athro Hubert Herkomer. Meddai Herkomer :

'I am at work upon the entire costume for the Arch Druid; making the whole of the ornaments, Breastplate … and Tiara with oakleaves - all, with the exception of the oakleaves of pure, solid gold. W. Mansel Lewis and I present it to the Gorsedd, bearing all expence together.'

Ar gyfer y cynlluniau hyn ymchwiliodd Herkomer i engrafiadau cynnar o 'Archdderwyddon' mytholegol; yn eu plith ddarlun yn Mona Antiqua Restaurata, Henry Rowlands, 1723.

Yr oedd yr urddwisg, y Goron a'r Ddwyfronneg yn barod erbyn Gŵyl Gyhoeddi Casnewydd 1896 ac ymfalchïai Herkomer yn y gwaith:

'Fortunately the love of the picturesque has not been eradicated from man's nature. … for an arch druid to be wrongly dressed, that is too dreadful to contemplate. I am happy to think that such a calamity has been, for all times, averted. The Gorsedd with its chief must above all be distinctive in its outer appearance as well as in its inner spiritual being.'

Dyfed oedd yr Archdderwydd cyntaf i wisgo stola ag arni lygad haul a phelydrau, draig goch rampant a cholomen, yn 1911.

Yng Ngorsedd Bae Colwyn, 1910 cyflwynodd y Parch. C.E.Wright, ficer Bexley yng Nghaint, deyrnwialen a ddyluniwyd gan Arlunydd Pen-y-garn ac o waith y Meistri Spencer and Co., Llundain i'r Archdderwydd.

Yna, yn Wrecsam, 1912, rhoddodd Mrs Laurence Brodrick (Gwendolen), Abergele, dlws addurnol (pendant) i'w wisgo gan yr Archdderwydd.

Cafwyd modrwy â sêl wedi'i chynllunio gan Douglas Williams, athro Celf y Coleg Normal, Bangor trwy garedigrwydd y Prifathro H. Humphreys-Jones, Lerpwl.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.