Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Meini'r Orsedd

Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd
Y Maen Chwŷf a Chylch yr Orsedd, Pontypridd
Gorsedd y Beirdd, Aberhonddu, 1889.
Gorsedd y Beirdd, Aberhonddu, 1889.
Cynllun T.H.Thomas o Gylch Meini'r Orsedd, 1901
Cynllun T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd, o Gylch Meini'r Orsedd, 1901
Gorsedd y Beirdd, Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909
Gorsedd y Beirdd, Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909; noder y meini bychain.

O fewn cylch Meini'r Orsedd y cynhelir yr Ŵyl Gyhoeddi a'r seremonĂ¯au gorseddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae'n debygol fod beddfeini trawiadol Avebury yn Wiltshire a Dyffryn Golych yn ei gynefin wedi dylanwadu ar weledigaeth Iolo Morganwg o gylch meini derwyddol Celtaidd ac felly roedd cylch o feini â Maen Gorsedd yn ei ganol yn yr Orsedd gyntaf yn 1792. Fodd bynnag, wrth iddo geisio cyplysu'r Eisteddfod â'r Orsedd yng Nghaerfyrddin yn 1819 y cyfan oedd gan Iolo wrth law oedd dyrnaid o gerrig mân. Dim ond Beirdd oedd yn cael mentro i mewn i gylch cyfrin y meini.

Ym Morgannwg gwelwyd fod gorsedd naturiol o gwmpas y Maen Chwŷf, darn anferth o graig llechfaen, ger Eglwysilan, a chynhaliwyd sawl gorsedd yn enw Cadair Morgannwg arni yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ddiwedd y ganrif, er mwyn cael trefn ar bethau, aeth yr Arwyddfardd - Arlunydd Pen-y-garn, ati i lunio cynllun manwl o Gylch yr Orsedd a dilynwyd hwn yn Eisteddfod Caerdydd, 1899. Yn ôl y cynllun hwn roedd y maen tua'r dwyrain, y Maen Cyfamod a'r ddau Faen Porth i ffurfio siap y Nod Cyfrin. Am gyfnod bu'n ffasiynol i wisgo'r meini â deiliach derw ac uchelwydd.

I hwyluso cynnal seremonĂ¯au'r Orsedd ar y maes ei hun yn ystod wythnos yr Eisteddfod, penderfynwyd, yn 2004, defnyddio meini plastig ond realistig yr olwg.