Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Y Ddawns Flodau

Heb os dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd seremonĂ¯au Gorsedd y Beirdd yng Nghylch yr Orsedd ac ar lwyfan y Brifwyl. Cymer rhyw 24 o ferched oedran ysgol gynradd ran ynddi; gwisgant wisgoedd gwyrddion â blodau'r maes yn eu haddurno a blodau yn goronau yn eu gwalltiau a chariant duswau o flodau. Dawns i gyfleu casglu blodau'r maes yw hi a chyfunir Cyflwyno'r Flodeuged â hi trwy i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u tuswau hwy at y Flodeuged ei hun.

Eto, defod gymharol ddiweddar yw hi. Yng Ngorsedd Gyhoeddi Machynlleth, 1936 y gwelwyd hi gyntaf a gellir ei phriodoli i ddychymyg y Cofiadur, Cynan ac athrawesau ysgolion cynradd y fro. Nid ymddangosodd y dawnswyr ar lwyfan y Brifwyl tan ddefod y Cadeirio yn Eisteddfod Ystradgynlais, 1954.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.