Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Y Cadeirio

Mae seremoni cadeirio'r bardd buddugol am gyfansoddi casgliad o gerddi, awdl neu gerdd mewn cynghanedd gyflawn ar destun arbennig yn un o uchelfannau pasiantri Gorsedd y Beirdd ym mhob Eisteddfod Genedlaethol. Caiff ei chynnal ar ddydd Gwener.

Mae'n seremoni hynafol iawn. Yr oedd yr arfer o gystadlu am gadair yn llys y Brenin eisoes yn hen yng nghyfnod Hywel Dda yn y ddegfed ganrif a phan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys ei 'lys yn ardderchog' yn Aberteifi yn 1176, cadair yr un oedd gwobrau'r prif fardd a'r prif gerddor. Yna, tua 1451, yn eisteddfod Caerfyrddin cadeiriau arian a enillwyd a thrachefn yn eisteddfodau Caerwys yn 1523 a 1567.

Wedi ail-sefydlu'r mudiad eisteddfodol yn y Bala yn 1789 ennill y Gadair oedd uchelgais pob bardd ond nid oedd seremoni orseddol ynghlwm wrth hyn eto. Yn eisteddfod daleithiol Dyfed / Dinefwr yng Nghaerfyrddin yn 1819 llwyddodd Iolo Morganwg i gysylltu'r mudiad eisteddfodol â defod Gorsedd y Beirdd ac â chadeirio'r bardd buddugol.

Cadair Wag Wrecsam, 1876
Cadair Wag Wrecsam, 1876. Roedd yr enillydd, Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw rai wythnosau ynghynt.

Yn 1867 y penderfynwyd neilltuo'r Gadair ar gyfer awdl yn y mesurau caeth a chael Coron am bryddest yn y mesur rhydd.

Roedd seremoni gadeirio Wrecsam 1876 yn drist a chofiadwy oherwydd roedd y bardd buddugol, 'Eurebius', sef Thomas Jones (Taliesin o Eifion), wedi marw ychydig wythnosau ynghynt. Mewn poster coffa am y digwyddiad anffodus dwedir mai 'A ydyw yr awdl wedi ei danfon yn saff?' oedd ei eiriau olaf un. Ar lwyfan yr Ŵyl gwisgodd y Gorseddogion arwyddion galar ac i sain y 'Dead March' gorchuddiwyd y gadair â brethyn du.

Ymhlith y cadeiriau mwyaf arwyddocaol y mae:

Gwnaed yn Tseina: Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933; rhodd J.R.Jones, Shanghai. Yn y llun gwelir y crefftwyr a luniodd y gadair.
  • Cadeiriau yn arddull yr Adfywiad Celtaidd:
    • Eugene Vanfleteren - Penbedw 1917 (y bardd buddugol: Hedd Wyn)
    • J.Kelt Edwards a Elias Davies - Corwen 1919 (Cledlyn Davies)
    • Llew Hughes - Y Barri 1920 (neb yn deilwng)
  • Cadair Wrecsam 1933 - rhodd gan J.R.Jones, Shanghai, brodor o Lanuwchllyn (Trefin)
  • Cadair Bro Dinefwr 1996 gan y Parchedig T.Alwyn Williams o dderw olion Pont Llandeilo a olchwyd ymaith yn llifogydd mawr 1845. Bu'r saer-weinidog farw ychydig oriau wedi cwblhau'r gwaith (R.O.Williams)
  • Cadair arbrofol Sir Benfro a Thyddewi 2002 gan Robert Jones yn llawn symbolau trawiadol megis y ddraenen (Myrddin ap Dafydd).
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.