Eisteddfodau a Gorseddau hanesyddol ddiddorol

Poster Eisteddfod a Gorsedd Genedlaethol, Lerpwl, 1900 yn dangos pa mor Seisnig yr oedd yr ŵyl ar droad yr ugeinfed ganrif.
Poster Eisteddfod a Gorsedd Genedlaethol, Lerpwl, 1900 yn dangos pa mor Seisnig yr oedd yr ŵyl ar droad yr ugeinfed ganrif.
Modelau pren o Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914 (ohiriwyd tan 1915) gan Gwmni'r Vale of Clwyd Toys, Trefnant, sir Ddinbych.
Modelau pren o Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914 (ohiriwyd tan 1915) gan Gwmni'r Vale of Clwyd Toys, Trefnant, sir Ddinbych.
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr.
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr.

Mae seremonïau'r Eisteddfod a'r Orsedd yn adlewyrchu digwyddiadau o bwys hanesyddol ar adegau.

  1. Cyfnod brwydrau rhyddfreinio menywod oedd blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif a gwelwyd y swffragetiaid yn targedu'r Prif Weinidog, Asquith, yn Eisteddfod Llundain yn 1909. Yr oedd ymateb yr Archdderwydd Dyfed i'w 'rhyfyg' yn ei englyn byrfyfyr yn nodweddiadol o agwedd batriarchaidd y sefydliad Cymreig ar y pryd:
    'Benyw mewn ffrae â'i bonet - yw y fun
    A wna beirdd yn darget,
    Un belen o'i gwn bwlet
    Aiff i'r jael â'r Swffraget.'
    Yn Wrecsam yn 1912 Lloyd George ei hun oedd y targed yn ei araith brynhawn y Cadeirio. Gwylltiodd y dorf o 13,000 yn y babell fod y menywod yn beiddio herio anwylyn y genedl. Ymosodwyd yn gorfforol arnynt, gan dynnu'u gwalltiau a rhwygo'u dillad; 'yr oedd y pafiliwn yn ferw drwyddo.'
  2. Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan yn 1914 gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor tan 1915; yna bu'n Aberystwyth yn 1916, Penbedw yn 1917 a Chastell-nedd yn 1918. Yn ystod y gorseddau rhyfel hyn ni ddadweiniwyd y Cleddyf Mawr ac ni erfyniwyd am 'Heddwch'.
  3. Dioddefodd Cymru ddirwasgiad dwys rhwng y rhyfeloedd. Symbol o hynny oedd i Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1938 gael ei gwneud yn ffatri ddodrefn Bryn-mawr, ffatri a agorwyd gan y Crynwyr yn y dref honno i geisio lliniaru peth ar y diweithdra enbyd.
  4. Â hithau'n Ail Ryfel Byd gwaharddwyd cynnal Eisteddfod 1940 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Aberpennar am eu bod yn ardaloedd peryglus. O'r herwydd cynhaliwyd Eisteddfod radio.
  5. Yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif brwydr yr iaith Gymraeg oedd prif gonsarn llawer o'r Gorseddogion a chlywid sawl Archdderwydd yn lleisio'i farn yn groyw ar y pwnc o'r Maen Llog. Yn ôl Tilsli, Gwyndaf gychwynnodd y dull newydd hwn o areithio 'gan drafod cwestiynau llosg a rhoi arweiniad pendant.'
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.