Arlunydd Pen-y-garn a datblygu regalia'r Orsedd

T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn yr Arwyddfardd (1895-1915) yng ngwisg yr Orsedd.
T. H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn yr Arwyddfardd (1895-1915) yng ngwisg yr Orsedd.
Medal T.H.Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd, Casnewydd ar Wysg, 1897.
Medal T. H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn, yr Arwyddfardd, Casnewydd ar Wysg, 1897.

Roedd hi'n amlwg erbyn yr 1890au bod gwir angen rhoi trefn ar seremonïau'r Orsedd, eu hurddasoli a chyfoethogi'i defodau a'i regalia. Byddai hynny'n gymorth i dawelu'r beirniaid ac i hyrwyddo'i delwedd.

Yn 1895 etholwyd T. H. Thomas, Arlunydd Pen-y-garn (1839-1915) yn Arwyddfardd a chyda'i hyfforddiant fel arlunydd proffesiynol aeth ati i'w diwygio. Cefnogodd gynlluniau Hubert Herkomer i ddiwygio urddwisgoedd yr Orsedd a regalia'r Archdderwydd a hynny ar seiliau patrymau Celtaidd. Arlunydd Pen-y-garn gynlluniodd Faner yr Orsedd, dyluniodd Gylch y Meini a gweddnewidiodd safon pasiantri'r Orsedd.

Mae llawer o'r elfennau hyn wedi goroesi hyd heddiw ac mae dyled Gorsedd y Beirdd i greadigrwydd a sêl gwladgarol Arlunydd Pen-y-garn yn enfawr.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.