Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English

Coelbren y Beirdd

Peithynen ag arni gywydd er cof am Iolo Morganwg, 1858.
Peithynen ag arni gywydd er cof am Iolo Morganwg yng ngwyddor Coelbren y Beirdd, ac a baratowyd ar gyfer Eisteddfod Llangollen, 1858.
Peithynen - y ffram bren ac ynddi gwyddor ffug Coelbren y Beirdd.
Peithynen - y ffram bren ac ynddi gwyddor ffug Coelbren y Beirdd.

Gwyddor ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg tua 1791 oedd Coelbren y Beirdd. Roedd e'n honni mai dyma wyddor y derwyddon Celtaidd a bod iddi 20 'llythyren' ac 20 arall i gynrychioli llafariaid hir a threigladau. Roedd yn cael ei naddu ar ddarn o bren pedair ochr a châi'r prennau hyn eu gosod mewn ffram fel y gellid troi pob pren i ddarllen y pedair ochr. Yr enw ar y 'llyfr' hwn oedd 'peithynen'.

Cyhoeddodd Taliesin ab Iolo lyfr Coelbren y Beirdd yn 1840 yn seiliedig ar lawysgrifau ei dad. Bu'r wyddor yn boblogaidd gan rai beirdd a derwyddon gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg er bod ambell un, fel Edward (Celtic) Davies (1756-1831), yn amau ei dilysrwydd. Erbyn 1893 yr oedd sylwadau J. Romilly Allen, cydolygydd yr Archaeologia Cambrensis, mewn llythyr at Arwyddfardd yr Orsedd yn adlewyrchu'r farn gyffredin:

'I think the so-called Bardic Alphabet a gigantic fraud … I don't believe you will find it repay you to look at these bogus alphabets and pseudo-Druidic antiquities as anything but … the most bare faced impostures.'