Casgliad Glo Amgueddfa Cymru

Mae gan yr Adran Ddaeareg dros fil o sbesimenau o lo o bedwar ban byd yn ei chasgliadau.

Glo Cymreig yw dros 800 o’r sbesimenau. Casglwyd llawer ohonynt ddechrau’r 1900au pan roedd glo’n cael ei gloddio o lofeydd dwfn dan y ddaear. Mae’r rhan fwyaf o’r llefydd hyn yn hollol anhygyrch erbyn hyn, ac mae’r darnau yn y casgliad yn unigryw. Defnyddir llawer o’r sbesimenau ar gyfer gwaith ymchwil.

Ffurfio Glo

Mae creigiau Carbonifferaidd Uwch o gyfnod sy’n ymestyn dros 315-300 miliwn o flynyddoedd yn yr holl ardaloedd yng Nghymru lle mae cyfoeth o lo. Craig garbonifferaidd organig yw glo â thros 33% o gynnwys organig. Roedd yr ardaloedd lle mae’r haenau glo unwaith dan fforestydd oedd yn tyfu ac yn gwywo am yn ail wrth i lefel y dŵr godi a gostwng. Cafodd y planhigion eu cywasgu o dan bwysau’r sediment i greu glo. Credir bod tua 10m o blanhigion yn creu 1m o lo.

Toriadau tenau o lo wedi eu chwyddo x 6.3 sy’n dangos sut mae’r sbesimenau wedi eu creu o haenau organig.

Dyma’r drefn gyffredin ledled ardal yr haenau Glo Carbonifferaidd:

Mathau o lo

Mae’r gwahanol fathau o lo yn dibynnu ar wahanol fathau o blanhigion, a hanes y gwaddod – a gafodd ei gladdu’n ddwfn, a gafodd ei gynhesu, ac am ba hyd oedd e o dan y ddaear?

Yn hanesyddol yng Nghymru, rydyn ni wedi cysylltu gwahanol fathau o lo â gwahanol ardaloedd: glo cartre yn y de a’r gogledd, glo stêm ym Morgannwg, glo carreg yng ngorllewin maes glo’r de a glo cannwyll yng ngogledd y wlad. Mae hyn yn awgrymu bod gan bob ardal hanes daearegol sydd ychydig bach yn wahanol.

Mae’r holl fathau o lo’n wahanol, a gellir eu dosbarthu mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Mae defnyddwyr glo diwydiannol yn defnyddio system ddosbarthu wedi ei seilio’n bennaf ar faint o garbon (C) a nwyon anweddol fel hydrogen sydd yn y sbesimen. Mae’r tabl isod, am lo’r de, yn dangos sut mae’r carbon yn cynyddu o fawn i lo carreg. Ar y cyfan, mae’r nwyon anweddol yn lleihau i lawr y rhestr, sy’n golygu bod cwta 2-8% o nwyon anweddol mewn glo carreg, sef y glo o’r safon uchaf, o’i gymharu â glo cartref, lle mae 22-40%.

Mawn 53 %C
Glo llwyd 61 %C
Glo rhwym 75 % C
Glo cartre 84-91 %C
Glo stêm 91-93 %C
Glo carreg > 93 %C

Mae glo cannwyll , a mathau eraill o lo fel glo mawnog a torbernit, yn perthyn i grŵp o’r enw ‘glo sapropelig'. Ffurfiodd y mathau hyn o lo o sapropel – haenau o laid a llysnafedd organig (algâu yn bennaf) sy’n ffurfio mewn amgylcheddau marwaidd heb ocsigen, ar waelod llynnoedd a moroedd – yn hytrach na phlanhigion y tir.

Mae astudiaethau gwyddonol ar y glo wedi dangos bod modd gweld olion y deunydd llysiau gwreiddiol gan ddefnyddio technegau microsgopig cryf. Gellir rhannu’r rhain yn wahanol gategorïau yn ôl eu nodweddion. Mae rhai o’r enwau hyn ar y gronfa ddata, yn enwedig y sbesimenau hŷn.

Ar y cychwyn, cafodd glo ei rannu’n dri chategori: glo gloyw, glo pŵl a siarcol mwynol (neu fam glo). Yn ôl system arall a ddyfeisiwyd gan Dr M. C. Stopes ym 1919, roedd pedwar math: llosglo, durain, clarain, a fitrain. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r dosbarthiad a gynigiodd Dr R. Thiessen o Swyddfa Mwyngloddiau’r Unol Daleithiau oedd yn rhannu glo yn anthracsilon - haenau gloyw o ddeunydd planhigion ac attriws - deunydd malurion mwy tywyll.

Heddiw, seilir dosbarthiad glo ar y deunydd organig a welir gan ddefnyddio technegau microsgopig optegol gwahanol. Mae tri phrif grŵp: liptinit (neu ecsinit), fitrinit ac inertinit gyda sawl israniad pellach e.e. yn y grŵp liptinit: alginit - darnau bychain bach tebyg i gymylau oedd yn algâu’n wreiddiol yn fwy na thebyg. Gall glo gynnwys un grŵp yn unig, neu’n fwy cyffredin, ddau neu dri grŵp, a chaiff ei enwi yn ôl cynllun safonol. Er enghraifft: mae liptit yn cynnwys 95% o lo liptinit, mae clarit yn gyfuniad o fitrinit ac ecsinit, ac mae fitrit yn cynnwys 95% o fitrinit.

Darn o lo wedi chwyddo mewn golau adlewyrchol sy’n dangos haenau o ddeunydd organig. (NMW 2001.9G.R216b Mag. x20)

Enwau a stratigraffeg

Yn y gorffennol, roedd gan bob pwll ei gynllun ei hun ar gyfer enwi’r gwythiennau glo i’w cloddio. Roedd rhai pyllau’n rhifo’r gwythiennau am i lawr, tra bod eraill yn defnyddio termau mwy disgrifiadol: e.e. 'gwythïen y Paun’; y 'wythïen Fawr’; y 'wythïen Pedwar Troedfedd'; ac wrth gwrs 'gwythïen Bute' ar ôl Ardalydd Bute oedd yn rheoli’r rhan fwyaf o faes glo’r de.

Mae Arolwg Daearegol Prydain a’r Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi casglu’r enwau o’r holl byllau, ac wedi llunio rhestr o enwau safonol. Ond mae natur y dyddodiad gwreiddiol yn golygu bod y gwythiennau’n gallu hollti neu gyfuno ar draws ardal, mae rhai wedi diflannu, ac mae gwythiennau llai, dienw yn aml yn y cyfresi. Defnyddiwyd y cofnodion daearegol diweddaraf am yr ardal i roi enwau safonol swyddogol y gwythiennau lle bo modd yn y gronfa ddata yma. Mae cofnod o’r enw gwreiddiol yn y nodiadau.

Mae’r siart stratigraffaidd yn rhoi gorolwg cyffredinol o’r meysydd glo mewn gwahanol rannau o Gymru.

Casglu heddiw

Erbyn heddiw, mae’n anodd ffeindio glo wedi ei ddatguddio yng Nghymru am ei fod e’n treulio’n hawdd, ac am fod cymaint ohono wedi cael ei gloddio a’i dynnu. Mae diddordeb o hyd mewn glo ffeindio sydd wedi ei ddatguddio i’w ychwanegu at y casgliad, yn enwedig o wythiennau ag enwau.

Y gronfa ddata

Mae’r gronfa ddata’n cynnwys yr holl sbesimenau yng nghasgliad glo Cymreig yr amgueddfa. Nid yw’n cynnwys deunydd cysylltiedig o’r haenau glo fel craigbridd a chlai tân, ac nid yw’n cynnwys deunydd ffosil na mwynau. Y gobaith yw y bydd modd ehangu’r wefan i gynnwys y pethau hyn (bron i 8,000 ohonyn nhw) yn y pendraw, ond yn y cyfamser, cewch fanteisio ar y rhain trwy gysylltu â’r amgueddfa’n uniongyrchol. email.

Ffurflen Ymholidau

Yr ychwanegiad nesaf at y gronfa ddata fydd glo o weddill y byd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.