Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Bwletin 12

HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 12 - 14/9/2000, NÔL YN YR AMGUEDDFA

Y tîm
Mark Redknap
Ffoto tîm
Blychau
Heather

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR

"Fe ddaeth y gwaith cloddio i ben ddydd Gwener gyda thaith o gwmpas y safle a chrynhoi. Yna, fe dreuliodd ychydig ohonom y bore Sadwrn olaf ar y safle, yn bwrw golwg dros gofnodion a chymryd y samplau olaf. Fe gasglwyd dau ddarn o freuan droi (rotary quernstone), un wedi'i hailddefnyddio yn ein 'llwybr' palmentog, a'r llall wedi'i hailddefnyddio o fewn y wal ôl-ganoloesol. Ar ôl clirio'r safle, ffarwelio â Roger a Debbie a chychwyn yn hwyr iawn am Gaerdydd, roedd yn bryd ymlacio a gorffwys ein coesau a'n breichiau lluddedig! Eto doedd y gwaith ddim ar ben - fe fuom yn treulio'r tridiau diwethaf yn cael trefn ar yr offer, y darganfyddiadau a'r cofnodion, a gorffen y gwaith papur. Mae ceiniog arian Edmwnd bellach wedi mynd at Edward Besly yn yr Adran Nwmismateg, i gael ei hastudio, tra bo'r darganfyddiadau eraill eisoes wedi mynd i'r labordy cadwraeth i gael eu dadansoddi - ond mwy am hyn yn ein diweddariad nesaf!"

DR MARK REDKNAP

EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON

"Yn ôl yn ddiogel yng Nghaerdydd ac yn dechrau dod at ein coed ar ôl teimlo'n hollol flinedig nos Sadwrn. Roedd dydd Gwener yn syndod o dawel o ystyried mai dyma ddiwrnod olaf y cloddio. Wedi dweud hynny, fe fues i'n ceisio cadw llygad ar y gwaith o ddarlunio pedwar neu bump o doriadau a'r un pryd yn ceisio trefnu bod yr offer yn cael eu glanhau - felly roedd yn waith eithaf caled.

Y dasg gyntaf ddydd Sadwrn oedd golchi'r bws mini a'i ddychwelyd i Fangor. Yna fe fues i a Mark R. yn bwrw golwg dros weddill y darluniau o'r toriadau ar gyfer fy ffos i cyn meddwl am lwytho'r fan."

EVAN CHAPMAN

MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC

"Cyrraedd Caerdydd tua hanner nos ar nos Sadwrn. Ar ôl dadlwytho'r fan fe es i gartre i orffwys cyn treulio dydd Sul yn ceisio cael trefn arnaf fi fy hun a'm dillad. Ddydd Llun, roedden ni'n ôl yn yr Amgueddfa i gadw'r holl offer, er mwyn sicrhau ei fod yn barod ar gyfer gwaith cloddio nesaf yr Amgueddfa ddiwedd yr wythnos nesaf.

Ddydd Mawrth a dydd Mercher, fe fuom yn gweithio ar ddata a gasglwyd yn ystod y gwaith cloddio. Fe fu pob aelod o'r tîm yn helpu i greu arolwg cyfuchliniau o'r lloc a'r cae cyfagos i roi darlun manwl-gywir o broffil y tir. Fe gymerwyd 12,000 o fesuriadau i gyd dros arwynebedd 350 x 250m. Bu'n rhaid plotio'r holl fannau lle cawsom ni ddarganfyddiadau a manylion arolwg y safle er mwyn sicrhau bod yr holl ddata yn gywir. Fe nodwyd tua 40,000 o rifau ar y cyfrifiadur, a thestun cryn ryddhad i bawb oedd fod y cyfrifiadur wedi creu map o'r safle oedd yn debyg i'r cae a adawson ni ddydd Sadwrn."

MARK LODWICK

HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU

"Ar ôl llwyddo i lanhau'r holl offer a rhoi'r rhan fwyaf o'r darganfyddiadau mewn pecynnau, yna golchi'r tanciau arnofio, fe sylweddolais fod hyn wedi bod yn ormod o straen ar y draen! Bu'n rhaid dadflocio draen Roger. Ar ôl treulio cwpl o oriau yn gwagio'r mwd, roedd pethau'n edrych yn fwy addawol. Erbyn drannoeth roedd y cyfan wedi clirio'n llwyr.

Ddydd Sadwrn, fe fuom yn clirio'r ysgubor a gwneud yn siwr bod y sgerbwd a'r darganfyddiadau brau eraill yn ddiogel i'w cludo, cyn ei throi hi am Gaerdydd.

Ar ôl treulio diwrnod neu ddau yn gorffen gwaith papur y darganfyddiadau yn yr amgueddfa, rydw i bellach wedi trosglwyddo'r sgerbwd, y gwaith metel a'r crochenwaith cynhanesyddol i'r Adran Gadwraeth. Evan bellach sy'n gyfrifol am storio'r darganfyddiadau. Rydw i newydd ddychwelyd i'r Adran Ddaeareg am wythnos cyn ei throi hi am y gwaith cloddio nesaf!

Fe gefais amser gwerth chweil yn Llanbedrgoch, yn gweithio gyda'r darganfyddiadau, gweld y safle'n datblygu, gweithio gyda'r myfyrwyr a thîm yr amgueddfa. Gobeithio y caf i ddychwelyd y flwyddyn nesaf."

HEATHER JACKSON

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.