Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Bwletin 12

HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 20 - 9/9/9

Mark Redknap o flaen ffos Mark Lodwick, ar ei ffordd o gwmpas y safle.
Mark Redknap o flaen ffos Mark Lodwick, ar ei ffordd o gwmpas y safle.
Cip ar ffos Mark Lodwick
Cip ar ffos Mark Lodwick gan ddangos y wal gyda'r ffos allanol ar y chwith. Fe ddaethpwyd o hyd i'r sgerbydau yn y ffos ym mhen uchaf y ffotograff.
Kevin baratoi i dynnu lluniau ffos Mark Lewis.
... a sut y llwyddodd y tîm i dynnu eu lluniau o'r awyr - wrth i Kevin baratoi i dynnu lluniau ffos Mark Lewis.
Ffotograff o ffos Mark Lewis
Ffotograff o ffos Mark Lewis, wedi'i thynnu uwchben ffos Mark Lodwick

Y NEWYDDION YN GRYNO

Mark Redknap sy'n crynhoi canlyniadau gwaith cloddio'r tymor wrth i'r tîm ddechrau cynllunio ar gyfer eu diwrnod olaf ar y safle.

Fe fydd yna fwletin arall ar ôl i'r tîm ddychwelyd i Gaerdydd yr wythnos nesaf.

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR

"Ein bwletin olaf 'yn y maes', a chyfle da i bwyso a mesur ein cyfnod ym Môn. Yn ystod y dyddiau diwethaf mae pethau wedi prysuro, gyda llawer o dasgau angen eu gorffen. Rhwng siarad ag ymwelwyr a chydweithwyr (er enghraifft Cyfeillion Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a'r ysgol gynradd leol), codi sgerbydau, bwrw golwg dros ddarluniau a llogi pwmpiau (darllenwch Ddiwrnod 18), fe fues yn treulio amser yn astudio nodweddion a samplau pridd am y tro olaf, a'u trafod gydag aelodau'r tîm.

Diolch i ymroddiad a gwaith caled y tîm, rydym wedi cyflawni holl amcanion y tymor. Erbyn hyn rydym yn gwybod beth yw hyd a lled y safle (mae ffos ffiniau'r cae wedi rhoi gwybodaeth werthfawr am leoliad wal y lloc). Llwyddwyd i astudio grwˆp pwysig o gladdiadau yn fanwl, ac wrth i'r gwaith barhau yng Nghaerdydd, mae'n sicr y daw rhagor o gliwiau i'r fei am orffennol y safle. Gobeithio hefyd y bydd yn datgelu mwy am fywyd a marwolaeth ddechrau'r canol oesoedd yng Nghymru.

Erys nifer o dasgau i'w cyflawni yfory: gorffen cynlluniau ffos Mark Lewis yng nghae y De, gorffen darlunio rhannau trwy rai o'r nodweddion, arnofio rhai o'r samplau a gymerwyd heddiw o silt ffosydd (er mwyn casglu hadau, siarcol), a chymryd samplau pridd stratigraffig i'w dadansoddi'n ddiweddarach.

Wrth reswm, fe fyddwn yn gadael y safle gyda chwestiynau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf - beth yw dyddiad y twmpath sydd wedi'i losgi yn ffos Mark Lewis (Oes yr Efydd?), a beth yw'r berthynas rhyngddo a darganfyddiadau cynnar eraill ar y safle? Tybed a oes rhagor o sgerbydau i'r gogledd o ffos Mark Lodwick? Sut olwg oedd ar y darddell, gyda'r ffos a'r wal o'i chwmpas yn y 9fed/10fed ganrif, a pha wybodaeth sydd wedi'i chadw yn ei siltiau? Yn ei glasur o lyfr Archaeology from the Earth, roedd Syr Mortimer Wheeler yn pwysleisio mai rhywbeth am gloddio pobl yn hytrach na chloddio pethau yw archeoleg. Mae gwaith cloddio eleni wedi dod â ni hyd yn oed yn nes at y nod hwn. Mae'n bosib y gallwn gysylltu ail-lunio wynebau, dadansoddi DNA a diet y sgerbydau â data ar statws, economi, swyddogaeth ac amodau byw ar ein safle. Mae'n hanfodol deall y berthynas rhwng y safle a'r dirwedd wrth iddo esblygu. Amser cinio heddiw fe wnes i ymweld â chae arall gydag Archie, ar ôl iddo ddarganfod rhywbeth newydd. Roedden ni'n meddwl tybed a oedden ni wedi darganfod safle anheddu archeolegol arall, a tybed a oedd yn uniongyrchol berthnasol i'r dystiolaeth o ddiwedd Oes yr Efydd / Rhufeinig yn Llanbedrgoch - efallai ei fod yn debyg i'r safle mwy adnabyddus ym Mhant-y-saer, ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Er nad ydyn ni wedi llwyr orffen eto (!), carwn ddiolch i bawb a fu'n cymryd rhan a gwireddu'r cyfan: Roger a Debbie am adael i ni ddod yn ôl, i'r staff ar y fferm am eu cymorth, i Archie a Pete, i Dave, Evan, Mark, Mark, Steve, ac yn bwysicaf oll i'n gwirfoddolwyr un ac oll, a weithiodd yn galed iawn ym mhob tywydd, a chyflawni cymaint. Rhaid peidio ag anghofio Wally y ci, am fihafio cystal ar y safle! Bu'n brofiad gwerth chweil rhannu'r canlyniadau dros dudalennau'r we. Fe fydd yna fwletin arall pan fyddwn ni'n ôl yn yr amgueddfa yr wythnos nesaf: cofiwch alw heibio eto. "

DR MARK REDKNAP

MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO

"Bron â gorffen! Dim ond diwrnod i fynd, a phawb wedi blino ond yn fodlon iawn gyda gwaith y tymor. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith cloddio wedi'i wneud ond mae'n rhaid gorffen ambell beth cyn y cawn ni fynd adref, ac mae yna rywfaint o archeoleg i'w gofnodi.

Braidd yn araf deg fu'r gwaith ddydd Mercher a dydd Iau. Fe alwodd llawer o ymwelwyr - pawb o archeolegwyr proffesiynol i ddosbarth ysgol gynradd. Ddydd Iau, fe alwodd Kevin Thomas, pennaeth ffotograffiaeth yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, i gofnodi'r archeoleg, gan fod popeth wedi'i gloddio erbyn hyn. Roedd hyn yn golygu cael ei godi yn un o beiriannau Roger y ffarmwr i gael golwg ar y safle oddi fry.

Ddydd Mercher, fe alwodd criw ffilmio arall. Fe dreuliodd criw y rhaglen 'Homelands' ddiwrnod yn ein cwmni, a bu Rupert Moon, y cyflwynydd, yn torchi llewys ac yn helpu gyda phob agwedd ar y gwaith maes.

Ddydd Gwener fe ddylai'r safle fod yn cau, er mwyn i Roger gael llenwi'r ffosydd i ni ddydd Sadwrn. Yna gallwn ddychwelyd i Gaerdydd a byw bywyd normal unwaith eto. "

MARK LODWICK

MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD

" Erbyn hyn rydyn ni wedi dod o hyd i'r ffos wreiddiol yn nwy fraich ein ffos ni. Buom yn edrych ar y wal a'i pherthynas ag ail ran y ffos. Rhwng gweddillion y wal, oedd wedi'i difrodi'n ddrwg gan yr aradr, a phen banc y ffos mae yna nodwedd linol yn baralel i'r ddau. Ffos sy'n llawn cerrig mân a rwbel yw'r nodwedd hon, ac mae'n debyg i'r rhai a gafwyd o fewn ffosydd a gloddiwyd yma yn y blynyddoedd diwethaf. Dydyn ni ddim yn siwr beth oedd ei phwrpas gan nad oes tyllau amlwg ar gyfer pyst. Mae'n ymddangos yn debygol ei bod yn dyddio cyn y wal: does dim toriad amlwg i'w weld trwy'r cyd-destunau uwch ei phen.

Mae'r gwaith cloddio yn tynnu tua'r terfyn a'r gwaith recordio wedi dechrau o ddifrif. Cymerwyd samplau o lenwadau'r ffos ac aethpwyd â nhw at Evan i'w harnofio. Mae rhannau a chynlluniau'r ffos ar y gweill a'r ffotograffiaeth yn gyflawn. Bu'r ffos yn dipyn o her i'r myfyrwyr ond fe fydd yn brofiad gwerth chweil iddyn nhw gyda gwaith cloddio yn y dyfodol. Bu'n werthfawr iawn o ran archeoleg ac, ar wahân i'r ffaith na lwyddon ni i ddod o hyd i waelod un y ffos oherwydd y tywydd a lefel y trwythiad, rydyn ni wedi cyrraedd ein nod. Unwaith eto eleni, fe fu'n fraint cael gweithio ar safle mor wych. "

MARK LEWIS

EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU

" Popeth yn dawel o safbwynt darganfyddiadau. Mae'r ddau sgerbwd sy'n weddill wedi'u codi erbyn hyn a'u rhoi mewn bocsys. Ar ôl tywydd erchyll ddoe, roedd heddiw'n ddiwrnod sychu da ac mae yfory'n argoeli diwrnod tebyg, felly mae gobaith da y bydd yr holl ddarganfyddiadau wedi sychu digon i'w pacio erbyn diwedd y gwaith cloddio. Bydd hyn yn golygu bod llai nag un bocs o esgyrn i'w golchi ar ôl mynd yn ôl i'r amgueddfa. Dros y blynyddoedd, fe ddeuthum i sylweddoli bod pacio'r esgyrn yn damp yn achosi mwy o broblemau, yn y tymor byr, nag wrth eu storio heb eu golchi.

Yfory, ar wahân i bacio'r darganfyddiadau sydd wedi'u sychu, bydd angen arnofio gweddill y samplau, a gorffen pacio pethau yn barod i'w cludo i Gaerdydd. A fi, yn gyffredinol, sy'n gorfod gwneud yn siwr bod yr holl offer yn cael eu glanhau, a dechrau eu pacio. "

EVAN CHAPMAN

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.