Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Bwletin 10

HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 16 - 5/9/99

Mark Redknap a Julian Richards
Mark Redknap a Julian Richards (cyflwynydd rhaglen deledu 'Meet the Ancestors') yn edrych ar y sgerbydau yn ffos Mark Lodwick.
Mary Davis a Julian Richards
Mary Davis a Julian Richards yn gweithio'n ofalus ar un o'r sgerbydau.
Julian Richards yn dangos lleoliad un o'r sgerbydau.
Julian Richards yn dangos lleoliad un o'r sgerbydau.
Cip cyffredinol ar ffos Mark Lodwick
Cip cyffredinol ar ffos Mark Lodwick - gyda'r têm yn gwylio o'r ochr wrth i'r ffilmio ddigwydd.
Llun cyffredinol o ffos Mark Lewis.
Llun cyffredinol o ffos Mark Lewis.
Ffos y lloc yn ffos Mark Lewis.
Ffos y lloc yn ffos Mark Lewis.
Y nodwedd gynhanesiol(?) yn ffos Mark Lewis
Y nodwedd gynhanesiol(?) yn ffos Mark Lewis
A llun arall o'r sgerbydau...
A llun arall o'r sgerbydau...

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR

" A ninnau bellach ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r gwaith cloddio, mae'r darlun cyffredinol yn llawer mwy eglur. Yn ffos Mark Lewis, fe lwyddwyd i ddod o hyd i gornel deheuol y lloc ac ymyl mewnol y ffos, ac wedi darparu tystiolaeth bendant dros hyd a lled y safle yn y 9fed a'r 10fed ganrif. Yr hyn sy'n ddiddorol dros ben yw'r dilyniant - sef ym mha drefn y digwyddodd pethau:

  1. twmpath cerrig gyda llawer o siarcol wedi llosgi (Neolithig ynteu Oes yr Efydd?)
  2. arwyneb tir wedi'i gladdu (cyn cyfnod y lloc), wedi'i selio gan...
  3. bridd wedi'i gloddio o'r ffos pan gafodd ei thorri (dechrau'r canol oesoedd).

Byddwn yn samplu llenwad y ffos ar y safle gan ddefnyddio techneg arnofio (mae Evan Chapman wedi egluro'r broses mewn bwletin blaenorol) i geisio cael tystiolaeth amgylcheddol ar ffurf hadau, ac ati.

Fe fydd yn cymryd ychydig ddiwrnodau eto i gofnodi'r sgerbydau. Ar ôl astudio'r llenwad yn y ffos o dan y sgerbydau, ceir awgrym o dri cham:

  1. ffos gynnar, lydan, fas
  2. aildorri'r ffos yn ddyfnach
  3. aildorri'r ffos eto, gyda gwaelod mwy gwastad.

Mae'r trawstoriadau ar draws y ffos wedi'u gorffen erbyn hyn a'r ffotograffau wedi'u tynnu. Mae'r rhain yn cael eu darlunio wrth raddfa erbyn hyn, gan ddangos y gwahanol nodweddion. Gyda'r cofnodion manwl hyn bydd modd cymharu'r dilyniant yn y fan hyn â thrawstoriadau mewn rhannau eraill o'r lloc, er mwyn cael darlun cynhwysfawr o system y ffosydd ar y safle. Yn debyg i ffos Mark Lewis, rwy'n gobeithio y bydd techneg arnofio yn datgelu tystiolaeth amgylcheddol. "

DR MARK REDKNAP

MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO

" Dyma gychwyn ar yr wythnos olaf ac mae popeth fel petai'n mynd yn ôl y disgwyl. Fe orffennodd 'Meet The Ancestors' ffilmio'r gwaith cloddio ac roedden nhw i'w gweld yn fodlon.

Ddydd Gwener, gynted ag yr oedd Dave wedi gorffen llunio cynllun o'r ardal o gwmpas pen claddiadau 3 a 5, fe godwyd y penglogau. Bu'n rhaid bod yn hynod ofalus wrth eu codi rhag iddyn nhw ddirywio ymhellach. Roedd y rwbel a bentyrrwyd ar yr esgyrn wedi'u gadael mewn cyflwr bregus iawn. Rhag i gyflwr y penglogau waethygu, fe wnaeth Mary Davis (cadwriaethwr y safle) osod haen o 'cling-film' dros bob penglog a Plastr Paris dros yr haen er mwyn rhoi cadernid wrth eu codi a'u cludo. Y gobaith yw y gellir ail-lunio wyneb y person yng nghladdiad 3 - a rhaid cadw holl esgyrn brau yr wyneb yn gyfan er mwyn gwneud hynny!

Ddydd Sul, fe ddechreuwyd cofnodi gweddill esgyrn y claddiadau er mwyn eu codi yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos. Mewn rhannau eraill o'r ffos fe fu pawb yn gweithio'n galed iawn mewn gwres llethol er mwyn cyrraedd gwaelod y ddau doriad trwy ffos y lloc. Erbyn diwedd y Sul roedd y tîm wedi llwyddo i gyrraedd gwaelod y ffos yn y ddwy ran a bydd modd dechrau eu glanhau ar gyfer cofnodi.

Ar ochr arall y wal am y lloc fe fuom yn cloddio gweddill y tomenni sbwriel (sbwriel domestig / anheddu) a chawsom syndod wrth ddod o hyd i ffos fas oddi tanodd, yn llawn sbwriel. Wrth ddefnyddio dyddio radiocarbon ar waelod y domen sbwriel yn 1997 fe wyddom i'r domen sbwriel gael ei sefydlu yn y5ed - 6ed ganrif, gan awgrymu bod y ffos yma wedi'i thorri'n gynnar.

Bu'n chwith gennym golli aelod gwerthfawr arall o'r tîm heddiw. Bu'n rhaid i Mathew Reynolds ddychwelyd adref i weithio ar ei gwrs Safon Uwch cyn dechrau ar yrfa ym maes archeoleg. "

MARK LODWICK

MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD

" A ninnau bellach wedi cyrraedd yr haenau archeolegol, mae'n ymddangos bod pethau'n digwydd ym mhobman yr un pryd. Erbyn hyn rydyn ni wedi dod o hyd i ran o'r ffos, ac wedi'i chloddio'n rhannol (ffigur 2). Mae'n llenwi â dŵr gan ei bod dan y lefel trwythiad i raddau helaeth. Y gobaith yw y bydd gweddillion organig wedi'u diogelu'n dda yn y rhan hon o'r ffos. Mae gris siâp V ar yr ymyl mewnol y ffos yn debyg i nodwedd a gofnodwyd ar ochr ddwyreiniol y safle. Mae'n bosibl ei fod yn dwll i ddal palisâd pren.

Er syndod i bawb, rydym wedi sylweddoli bod y deunydd du, (hwnnw roedden ni'n credu oedd yn gymharol fodern) yn cael ei dorri gan y ffos [LLYCHLYNNAIDD]. Mae hynny'n golygu bod y deunydd du yn gynharach na thorri'r ffos. Fe all fod yn gynhanesiol. Fe dynnwyd samplau i gael dyddiad radiocarbon. Mae'r ffos fewnol i'w gweld yn Nelwedd 7, yn troi tuag at y ffos yn y ffos arall. Mae'r ffotograffau o'r awyr o olion crasu yn awgrymu cornel ongl sgwâr yn hytrach na chromlin fel hyn. Trwy gloddio fe gawsom ni ddarlun cywirach, mwy manwl o'r ardal hon. "

MARK LEWIS

EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU

" Uchafbwynt dydd Gwener oedd helpu i godi'r ddwy benglog. Fel arall, fe ddiflannodd y diwrnod wrth i mi ruthro'n lloerig o un peth i'r llall heb lwyddo i brosesu unrhyw ddarganfyddiadau. Heddiw, ar y llaw arall, fe dreuliais ddiwrnod cyfan yn prosesu darganfyddiadau, clirio'r holl esgyrn anifeiliaid oedd angen eu golchi, a phrosesu tua phymtheg o samplau trwy eu harnofio.

Mae'n dda i mi wneud hynny oherwydd heddiw fe ddechreuodd Mark Lodwick gloddio'r tomenni sbwriel o ddifrif, ac felly mae esgyrn anifeiliaid yn dechrau ymddangos o bob cyfeiriad. Mae sôn hefyd am bentwr o ddyddodion o'r ddwy ffos i'w harnofio - a hynny fesul berfa. Ac wrth i'r sgerbydau gael eu codi, bydd angen pacio'r cwbl

Mae'n ymddangos erbyn hyn bod y system arnofio yn gweithio'n dda. Fe gafwyd problem fach yn wreiddiol pan sylweddolais i nad oedd y batri i redeg y pwmp ddim yn gweithio'n iawn. "

EVAN CHAPMAN

DAVE STEVENS - AROLYGWR A CHYNLLUNYDD Y SAFLE

" Ar ôl pythefnos o ddarganfyddiadau, mae'r pwyslais yn newid ryw ychydig; mae'r pwyslais erbyn hyn ar gofnodi'r safle yn ofalus. Fel dyluniwr, mae hynny'n golygu cynhyrchu cofnod manwl o bopeth a gafodd ei ddarganfod ar y safle.

Ar ôl cynnal arolwg cyffredinol am wythnos, rwy'n cofnodi'r claddiadau erbyn hyn. Maen nhw'n proffwydo glaw ddydd Mawrth, ac felly mae pwysau mawr i gofnodi'r sgerbydau a'u codi. Fe ddechreuais ar y gwaith ddydd Gwener trwy ddarlunio'r penglogau cyn i dîm 'Meet The Ancestors' ffilmio'r dasg o'u codi. Ddydd Sul, fe ddaliais ati i gofnodi Claddiad 3 er mwyn iddyn nhw gael ei godi i ddatgelu Claddiad 4.

Bydd yr holl gladdiadau wedi'u cofnodi erbyn dydd Mawrth ac yna fe fyddaf yn cael canolbwyntio ar wal a ffos y lloc, a ffos Mark Lewis. "

DAVE STEVENS

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.