Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Bwletin 7

HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 9 - 29/8/99

Mark Redknap yn ffos Mark Lodwick
Mark Redknap yn ffos Mark Lodwick, yn cloddio'r sgerbwd ddaeth i'r fei y llynedd - yn ei ddillad amddiffynnol.
Cloddio esgyrn anifeiliaid
Cloddio esgyrn anifeiliaid yn y rwbel yn ffos Mark Lodwick.
Dave Stevens
Dave Stevens yn cofnodi'r rwbel yn ffos Mark Lodwick cyn i'r tîm chwilio beth sydd oddi tano.
Hwt darganfyddiadau Evan Chapman
Y prosesu'n dechrau yng nghwt darganfyddiadau Evan Chapman.

Y NEWYDDION YN GRYNO

Glaw ysbeidiol, ond mae'r tîm wedi llwyddo i dynnu llawer o'r rwbel o ffos Mark Lodwick a dod o hyd i fwy o gymhlethdodau gyda'r clai yn ffos Mark Lewis. Yn y cwt darganfyddiadau mae Evan Chapman wedi dechrau prosesu'r pethau ddaeth i'r golwg hyd yn hyn.

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR

" Mae'r chwilio'n parhau am wal y lloc yn ffos Mark Lewis.

Yn yr adroddiad diwethaf fe gyfeiriodd Mark at gefnen glai (sy'n naturiol, mae'n debyg). Mae'r clai yn pantio ar hyd yr ymyl deheuol. Y dehongliad mwyaf tebygol ar hyn, ar sail y ffotograffau o'r awyr, yw mai dyma ymyl mewnol y ffos o amgylch y lloc. Mae'n ymddangos hefyd fod tîm Mark Lewis wedi dod o hyd i dystiolaeth o ddyfrgwrs creiriol (relict watercourse), sy'n llawn mawn erbyn hyn. Rwy'n credu bod hwn yn ffynhonnell nifer o arteffactau o ddiwedd Oes yr Haearn/dechrau cyfnod y Rhufeinwyr, a wnaed dros y blynyddoedd.

Yn ffos Mark Lodwick, mae'r gwaith yn parhau i ddiffinio a chofnodi'r amryfal haenau o gerrig a rwbel cyn eu tynnu o'r ffos. Erbyn hyn mae'r gladdiad wedi'i chlirio i'r un stad â'r llynedd, gyda nifer o gerrig eithaf mawr trosti. Wrth gloddio yn y fan hyn, bydd raid bod yn hynod ofalus - mae'r asgwrn yn frau iawn ac fe all chwalu wrth i rywun brin ei gyffwrdd. Mae nifer o ffactorau yn rheoli ei gyflwr - ffactorau cemegol, ffisegol a biolegol - er enghraifft pa mor asidig yw'r pridd (Ph: tua 6.3 yn y fan hyn), y lleithder, faint o ôl anifeiliaid (e.g. tyrchio), a'r ffordd y cafodd ei gladdu (yn y fan hyn, rhoddwyd cerrig mawr dros y corff). Byddwn yn gwisgo menig, oferôls a masg rhag llygru'r samplau.

Erbyn hyn mae'r tîm yn archwilio'r rwbel sydd uwchben y ffos i'r de o'r sgerbwd, er mai dim ond esgyrn anifeiliaid a ddaeth i'r fei hyd yma!"

DR MARK REDKNAP

MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO

" Dyma ddechrau'r ail wythnos a chafwyd cwpl o aelodau newydd i ymuno â'r tîm - ac ychydig o nerth bôn braich newydd yn hwb i freichiau blinedig y gweddill ohonom.

Daeth Dave Stevens, cynllunydd y safle, i ymuno â ni ddydd Sul. Fe gafodd dasg i'w gwneud ar unwaith, yn darlunio'r rwbel cerrig yn ffos y lloc lle rydyn ni wedi dod o hyd i ddwy gladdiad o leiaf ymhlith y cerrig. Pan fydd Dave yn gorffen cofnodi'r cerrig ddydd Llun, fe allwn ni ddechrau dadorchuddio'r cyrff - gwaith y mae pawb ohonom yn awyddus i'w dechrau.

Rydyn ni'n dal i gloddio'r haen o rwbel cerrig yr ochr arall i'r ffos. Rydyn ni wedi sylwi bod maint y cerrig yn cynyddu wrth i ni fynd i lawr yn is, ac mae darnau sylweddol o esgyrn anifeiliaid yn y pridd rhwng y cerrig. Clirio ar ôl cael gwledd, efallai?

Mae Mark Redknap wedi bod yn helpu i gloddio'r sgerbwd y daethon ni ar ei draws y llynedd. Rydyn ni'n gobeithio tynnu D.N.A. o'r gweddillion. Felly mae'n rhaid i Dave fod yn ofalus nad yw'n llygru'r asgwrn gyda'i D.N.A. ei hun. Bu'n rhaid iddo wisgo 'siwt rompyr', masg a menig, yn enw gwyddoniaeth."

MARK LODWICK

MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD

"Yn fy ffos i, mae'n ymddangos bod cerrig mawr y wal wedi'u gosod o fewn haen o glai sy'n llawn cerrig mân. Mae'n ddigon posib mai dyma weddillion y deunydd gafodd ei ddefnyddio i fondio cerrig y wal. Mae dau aelod o'r tîm, Tudur a Mo, wedi dod o hyd i olion cerrig a arferai fod ar y banc clai. Mae'n ymddangos yn fwy tebygol erbyn hyn bod y banc clai y cyfeiriais ato yn y bwletin diwethaf yn gefnen naturiol o glog-glai gyda phantiau llawn mawn tua'r gogledd a'r de. Mae'n bosib fod y wal wedi'i gosod yn y fan hyn ar fwriad er mwyn manteisio ar y sylfaen naturiol. Ar y llaw arall, mae'n ymddangos yn llai tebygol y bydd y wal wedi goroesi'r aradr a'r clirio cerrig a ddigwyddodd yn yr ardal.

Erbyn diwedd y dydd, fe ddaeth arwyneb tir posib i'r golwg (haen o glai caled ac wedi cracio) a hwnnw wedi'i orchuddio â haen debyg i arwyneb hen dywyrch. Bydd y berthynas rhwng yr arwyneb tir hynafol hwn a rwbel y wal yn bwysig wrth ystyried i ba gyfnod y mae'r nodweddion yn perthyn. "

MARK LEWIS

EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU

" Dyma'r diwrnod cyntaf un yn prosesu'r darganfyddiadau! Fe ddechreuodd dau o'r gwirfoddolwyr olchi'r darganfyddiadau. Dydi hon ddim yn un o'r tasgau mwyaf cyffrous dan haul, gan mai'r unig bethau sydd angen eu golchi hyd yma yw esgyrn anifeiliaid, a rhagor o esgyrn anifeiliaid. Ar y llaw arall, pan oedd hi'n tywallt y glaw yn y prynhawn, hon yn ddi-os oedd y dasg orau o bell ffordd.

Golchi yw'r ffordd symlaf o dynnu'r pridd oddi ar bethau fel esgyrn anifeiliaid. Mae'n rhaid gwneud hyn er mwyn i ni allu gweld yn union beth ydyn nhw; i'w gwneud yn haws eu trin; ond yn bennaf oll i rwystro'r pridd rhag llwydo. Ar ôl eu golchi rydyn ni'n gadael i bopeth sychu. Rhaid peidio â gosod y darganfyddiadau yn llygad yr haul - petaen nhw'n sychu'n rhy gyflym fe all yr esgyrn gracio. "

EVAN CHAPMAN

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.