Bywyd y Chwarel

Bywyd Cymdeithasol a Diwylliannol

Ar anterth y diwydiant llechi yn Sir Gaernarfon roedd Llanberis a’r cylch yn fwrlwm o weithgarwch o bob math. Roedd bywyd y tu allan i oriau gwaith yn troi i lawer o amgylch y capeli, yn arbennig felly yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd. Yn wir ceid oedfaon arbennig amser cinio i’r chwarelwyr yn y capeli hynny oedd agosaf at y chwarel. Roedd i’r capel ei fywyd diwylliannol llawn ei hun, rhwng y seiat, y cyfarfod gweddi, cymdeithas y chwiorydd a’r gymdeithas ddiwylliadol. Yn y cyfamser roedd yno ddigon o gyfle i ddangos doniau dramatig ac eisteddfodol trwy gyfrwng llu o gymdeithasau a chlybiau bychain, a llawer o lenydda. Roedd y bandiau pres yn hynod o boblogaidd —ar un adeg roedd gan bob pentref o unrhyw sylwedd yn y cyffiniau fand ar waith. Roedd yno ddigon o fynd ar chwaraeon hefyd, gydag aml i dîm pêl-droed. Nid gwaith a gweddi oedd pob dim, er mor bwysig yr oedden nhw.

Gilfach Ddu

Mae'n siŵr bod na ryw drigain, deg ar hugian rhwng powb te'… oen na tritars, seiri coed, gofaint, mowldars …Oeddan ni'n hollol hunangynhaliol 'de, bob dim yma.

Ymfalchïai'r peirianwyr yn y Gilfach Ddu yn y ffaith y gallent lunio neu drwsio unrhyw offeryn, bron, at ddefnydd y chwarel a'r porthladd —yn bob dim o gŷn hyd injan stêm. I wneud hyn roedd galw am nwyddau crai —er enghraifft coed a haearn —ac ynni, a gyflenwid gan yr olwyn ddŵr fawr.

Ond roedd yna dipyn o dynnu coes rhwng y chwarelwyr a dynion y Gilfach Ddu. Fel y cofia Gwilym Davies: ‘Oeddan nw'n galw ni, galw ni yn yr iard yn Lindys am bod ni'n byta a dim yn cynhyrchu 'de… Hen Deulu oeddan nhw'n galw'r —y chwarelwyr 'de.

Ac yng ngeiriau Hugh Richard Jones, ‘O nw'n meddwl nag oeddan ni'n gneud dim mewn gwirionedd 'de. Mai nhw odd yn cadw ni. Mai nid y gwaith odd yn cadw ni, ond ma' profit nhw odd yn mynd i gadw ni. Dyna pam oedd y manijar yn deud mai lindys oeddan ni de. Byta'r profit i gyd.

Serch hynny roedd gwaith beunyddiol y Gilfach Ddu yn gwbl hanfodol i lwyddiant y chwarel.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.