Gwirfoddolwyr Corfforaethol

Gwirfoddolwyr Corfforaethol
Gwirfoddolwyr Corfforaethol
Gwirfoddolwyr Corfforaethol

Mae Gwirfoddoli Corfforaethol yn ffordd wych o helpu eich cymuned leol tra’n annog eich grŵp i weithio fel tîm. Yn y gorffennol, mae staff banciau, y gwasanaeth sifil ac elusennau a chlybiau lleol wedi gwirfoddoli gyda ni. Dyma’r gwirfoddolwyr grŵp yma yn helpu’r Amgueddfa gyda phrojectau mawr fel garddio, gwaith ffarm a threfnu deunydd archif hyd yn oed.

Os oes gennych ddiddordeb mewn Gwirfoddoli Corfforaethol anfonwch e-bost at y Cydlynydd Gwirfoddolwyr (gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk) gan nodi’r canlynol:

  • Enw’r sefydliad
  • Dyddiadau yr ydych ar gael i wirfoddoli (rhowch rybudd o 4-6 wythnos)
  • Amgueddfa ddelfrydol
  • Y math o wirfoddoli oedd gennych mewn golwg

Ni allwn warantu cyfle i bawb wirfoddoli, ond fe wnawn ein gorau i’ch cynnwys yn ein cynlluniau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3419.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.