Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Y Chwarel

Y Perchnogion a'u Cyfoeth

Bu pobl leol yn gweithio'r mynydd am ganrifoedd cyn cychwyn chwarel Dinorwig.  Ym 1788 talodd Assheton Smith i feiliaid i fwrw'r bobl hynny o'u chwareli bychain.

Erbyn chwarter olaf y 19eg ganrif, pum teulu oedd biau bron i hanner y tir yng Ngwynedd.  Teulu Assheton-Smith o swydd Gaer - 'y bobol fawr' - oedd biau chwarel Dinorwig.  Ymestynnai eu stad, stad y Faenol ar lan y Fenai, dros 34,000 erw o dir.

Yn y cyfnod hwn yr oedd gan George William Duff Assheton Smith, er enghraifft, fwy o ddiddordeb o lawer yn ei stad nag yn y chwarel. Ym Mharc y Faenol cadwai wartheg gwynion, ceirw a bison o America heb sôn am eirth a mwncïod!  Diddordebau boneddigaidd mwy cyffredin yr oes oedd gan ei frawd Charles – enillodd ei geffylau rasio y Grand National bedair gwaith, a ffolai ar ei gychod hwylio.  Yn wir, enwid un o injans stêm y chwarel, Pandora, ar ôl un o'r cychod hyn.

Er gwaethaf eu diddordebau uchel-ael a’r gagendor enfawr o ran safon byw rhwng y perchnogion a'r chwarelwyr, roedd amryw o deulu Assheton Smith yn feistri teg a chydwybodol.  Er mai perthynas hierarchaidd oedd rhyngddynt a'u rheolwyr a'r gweithwyr, gallent fod yn garedig; er enghraifft trefnwyd i'r chwarelwyr i gyd fynd i Lundain ym 1887 i weld dathliadau Jiwbili y Frenhines Fictoria.

Tŷ
Y Faenol, cartref teulu Assheton Smith, perchnogion Chwarel Dinorwig.