Rydych chi yn:  >   >   > 

Siopa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd National Museum Cardiff

Siop yr Amgueddfa

Siop yr Amgueddfa

Mae siop Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn orlawn o roddion gwych a rhywbeth i bawb. Bydd syniadau unigryw i’ch ysbrydoli, boed yn ymweld â’r Amgueddfa neu’n galw’n arbennig i siopa. Rydym yn cynnig amrywiaeth o deganau arian poced, cofroddion o’r Amgueddfa ac anrhegion arbennig sy’n ysbrydoli ac addysgu.

Galwch draw i’r siop yn y Brif Neuadd.

Ar agor

10am-5pm
Dydd Mawrth – dydd Sul

Siop Ar-lein

Prynwch anrheg arbennig yn siop ar-lein Amgueddfa Cymru – celf, llyfrau, gemwaith, pethau'r cartref a llawer mwy.

» Ymweld â'r Siop Ar-lein

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.