Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Wedi'r Cau'r Chwarel, Y Diwydiant Llechi Heddiw

‘Fuo na’m diwrnod ola.’

Roedd Streic Fawr y Penrhyn ar droad y ganrif wedi effeithio’n aruthrol ar fasnach lechi Arfon yn gyffredinol.  O’i chymharu â’r sefyllfa cyn y Streic, am gyfnod o dair blynedd, prin y daeth llechi o gwbl o’r chwarel enfawr hon.  Trodd llawer cwmni a fu’n prynu llechi Cymru at gyflenwyr eraill yn ystod y cyfnod hwn ac ni ddaethant fyth yn ôl.  Effeithwyd ymhellach ar y diwydiant llechi gan yr Ail Ryfel Byd, pan ddirywiodd y galw am lechi adeiladu yn ddirfawr ac aeth llawer o’r dynion i’r fyddin.  Er y bu cyfnod digon prysur o adeiladu yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, ni ddaeth y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru fyth yn ôl i’w lle fel y bu.  Yn ystod y pumdegau daeth yn amlwg bod y chwarel wedi ei gweithio allan mewn gwirionedd, ac er ymdrechion i ddod o hyd i graig dda ac arallgyfeirio, caeodd chwarel Dinorwig yn ddisyfyd ym mis Awst 1969.

Rhoddwyd offer a ffitiadau’r chwarel ar ocsiwn a dim ond drwy ymdrechion glew rhai o’r cyn-chwarelwyr yr arbedwyd rhai o’r eitemau sydd ar ddangos yn yr Amngueddfa heddiw.  Yn ôl Hugh Richard Jones, ‘O nw wedi gwerthu rai petha, a beth oedd yn nychryn  i fwya oedd, dwi’n meddwl, gweld nw i fyny ar yr olwyn fawr.  Mae’n debyg ych bod chi wedi gweld honno.  O nw’n mynd i losgi honno, fel scrap.  Mi ges i gyfle i stopio nw neud hynny, a siarad efo’r derbynnydd a’r arwerthwr, ac fe netho nw gau’r cwbwl i fyny a dodi’r ‘vultures’ o na i gyd.  Vultures on ni’n galw’r bobl scrap man, am i bod nw’n mynd â bob peth.  Sim ots beth fasen mynd ag o, i’w storio ai losgi fo.

‘O’dd hi ‘di slcaio’n arw ‘te.  Ond nath neb feddwl bysai’n cau mor sydyn â hyna.’

Agorwyd yr amgueddfa i’r cyhoedd ym 1972 â Hugh Richard Jones, cyn prif beiriannydd y chwarel, yn rheolwr arni.

Cyflogwyd nifer o gyn-chwarelwyr a pheiriannwyr Chwarel Dinorwig i gyflwyno ac egluro eu crefft, ac aethpwyd ati hefyd i gychwyn hel enghreifftiau arwyddocaol o offer perthnasol, gyda nifer o’r rhain wedi eu casglu o chwareli llechi eraill yng Nghymru.  Dyma’r polisi hyd at heddiw; rydym yn falch o’r cyfle i ddefnyddio staff deallus, sydd yn deall cyd-destun helaethach hanes rhyfeddol y diwydiant llechi.

Ac mae’r diwydiant hwnnw yn parhau mewn bobolaeth.  Cyflogir oddeutu 350 bellach yn chwareli llechi Cymru, gyda nifer sylweddol yn gweithio i Gwmni McAlpine yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ac mewn nifer o chwareli llai sydd yn eiddo i’r cwmni o amgylch Blaenau Ffestiniog ac yn Nyffryn Nantlle.  Parhau mewn bodolaeth, hefyd, mae cwmni hanesyddol J. W. Greaves yn Chwarel y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, tra mae cwmni Wincilate yn gyfrifol am yr unig glodda tanddaearol sydd bellach yn gweithio, sef Chwarel Aberllefenni.  Cynhyrchu llechi toi yw sylfaen y diwydiant o hyd, ond yn ogystal fe wneir defnydd blaengar o lechfaen Cymru ar gyfer defnydd pensaerniol – gweler llechfaen Cwt-y-Bugail yn siop a chaffi yr Amgueddfa – ac ar gyfer myrdd o ddibenion eraill, megis sylfaen ffordd.