1–4 Fron Haul

'Nid tŷ sy'n gwneud cartref - nid mur a drws a ffenestr ac aelwyd - ond y pethau sydd ynddo, y lliain ar y bwrdd, y pot blodau a'r rhedyn ynddo yn y ffenestr … y gôt sy'n hongian tu ôl i'r drws.'
(T. Rowland Hughes, 'O Law i Law')

Ym 1998 dechreuwyd ar broject cyffrous ac uchelgeisiol dros ben pan gymerwyd y camau cyntaf i symud rhes o bedwar tŷ o Fron Haul yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog i Amgueddfa Lechi Cymru. Oherwydd ei chyflwr gwael, cawsai'r rhes ei chondemnio gan Gyngor Sir Gwynedd.  Mae'r tai yn gwbl nodweddiadol o'r tai teras cyfyng a welir ar hyd a lled y bröydd chwarelyddol.  Gwelwyd bod yma gyfle unigryw, felly, i ddod â hanes y bröydd hynny yn fyw o'r newydd, a phenderfynwyd yn gynnar iawn y dylai'r tai adlewyrchu tri chyfnod a thair ardal a fu'n hynod o bwysig yn hanes y diwydiant llechi.

Fron Haul

Rhif 3: Oes Aur y Diwydiant Llechi
(Tanygrisiau, 1861)

Yn y cyfnod hwn roedd y diwydiant llechi yn datblygu'n un o'r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru a'r prif gyflogwr yng Ngwynedd. Wrth i'r galw am lechi gynyddu, symudodd gweithwyr o blwyfi amaethyddol cyfagos i weithio mewn diwydiant budr, peryglus a chaled, ond un a dalai gwell cyflog na'r hyn a delid ar y ffermydd lleol. Rhwng 1831 a 1881 tyfodd poblogaeth plwyf Ffestiniog o 1,648 i 11,274.  Nid oedd modd i'r adeiladau gadw i fyny gyda'r cynnydd hwn ac yn aml byddai dau deulu yn rhannu'r un tŷ, neu byddai perthynas neu gyfaill yn lletya gyda'r teulu.  Ym 1861 pâr priod oedd trigolion y tŷ, sef William Williams, chwarelwr a hanai o Drawsfynydd, ac Elen Williams o Lanbedr, Sir Feirionnydd.  Roedd brawd William a lodjar o Sir Fôn yn byw yno hefyd.  Lle'r oedd plant mewn teulu byddent yn rhannu ystafell gyda'i rhieni ac weithiau yn rhannu'r un gwely, neu'n cysgu mewn gwely 'gwneud' ar lawr. Roedd lleithder, y cyflenwad dŵr a carthffosiaeth hefyd yn broblem, a theiffoid a'r diciáu yn fygythiad cyson oherwydd hynny.

Rhif 2: Streic y Penrhyn
(Bethesda, 1901)

Cegin

Ym mis Tachwedd 1900 cerddodd 2,800 o chwarelwyr allan o Chwarel y Penrhyn: dyma gychwyn anghydfod eithriadol o chwerw a hirhoedlog yn hanes diwydiannol Prydain - y 'Streic Tair Blynedd' fel y'i gelwir yn aml.  Ym mis Mehefin 1901 dychwelodd rhyw 500 o ddynion i'r chwarel ac o hynny allan, bu teimladau cryf iawn yn Nyffryn Ogwen ynglŷn â'r 'Bradwyr'.  Yn y tŷ hwn mae'r tad yn chwarelwr ar streic a'r fam yn brwydro i ddal dau ben llinyn ynghyd. Mae ganddynt ferch ddwy ar bymtheg mlwydd oed a yrrwyd i weini - hi sy'n cynnal y teulu; bachgen oedran ysgol a babi.  Bydd yr ymwelydd craff yn sylwi ar y cerdyn printiedig â'r geiriau 'Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn' yn ffenestr y tŷ; gosodwyd y rhain yn ffenestri'r streicwyr, gan rannu'r gymuned yn ddwy garfan. Arhosodd y mwyafrif o'r cerdiau yn y ffenestri am dros ddwy flynedd - pan dynnwyd cerdyn o'r ffenestr roedd yn arwydd fod chwarelwr arall wedi torri'r streic. Yn ystafell wely'r rhieni gwelir fod tad y tŷ'n hel ei bac i geisio ei lwc yn Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin. Amcangyfrifir bod rhwng 1,400 a 1,600 o chwarelwyr Dyffryn Ogwen wedi ymfudo i lofeydd de Cymru yn ystod y Streic Fawr er mwyn cynnal eu teuluoedd.

Cafwyd anghydfod diwydiannol yn chwarel Dinorwig, yn arbennig adeg y 'Cloi Allan ym 1885-6, pan fu'r streicwyr o'u gwaith am gyfnod o bum mis - ond dim byd ar yr un raddfa â'r Streic Fawr hanesyddol.

Rhif 1: Cau Chwarel Dinorwig
(Llanberis, 1969)

Rhif 1 Fron Haul, Llanberis, 1969
Rhif 1 Fron Haul, Llanberis, 1969

Gwelwch ar unwaith, mae'n siŵr, mor wahanol yw'r tŷ olaf, a'i flaen wedi ei rendro a'i baentio'n felyn a'r gwaith coed yn las.  Dyma Lanberis yn y flwyddyn 1969. Ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn, arwisgwyd y Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon, ar lwyfan o lechen Dinorwig.  Ym mis Awst, caewyd Chwarel Dinorwig: collodd 350 o ddynion eu gwaith yn ystod y gwyliau blynyddol.  Go brin y meddylient wrth adael y chwarel a'r gweithdai ar ddechrau'r gwyliau na fyddent fyth yn dychwelyd yno. Yn Rhif 1 Fron Haul, fel yn y tŷ blaenorol, penderfynwyd gwneud defnydd o deulu cynrychioladol.  Mae tad y tŷ newydd ddarganfod ei fod yn ddiwaith a hynny mewn ardal lle mae diweithdra eisioes yn uchel. Efallai y caiff swydd yn un o'r ychydig ffatrïoedd yng nghylch Caernarfon neu o fewn y diwydiant twristiaeth.  Mae'r fam yn gweithio mewn ffatri ddillad leol - 'y chwaral i ferched' - ac nid y cartref yw unig le'r wraig bellach.  Mae eu mab yn yr ysgol, sy'n cynnig llwyfan ar gyfer themâu a phynciau newydd - er enghraifft teimladau cryfion rhai o bobl yr ardal yn erbyn yr Arwisgiad.  Mae ffasiwn y dydd yn amlwg yn y tŷ hwn o'r unedau cegin, yr offer goleuo, y carpedi a'r llenni lliwgar, y recordiau sengl a'r dillad.

Defnyddir Rhif 4 yn dŷ addysg ar gyfer ymweliadau gan grwpiau.  Mae'n fan cyfleus i adrodd stori neu wneud gwaith llaw.

Symud Rhes Fron Haul

Mae gan Sain Ffagan: Amgueddfa Werin dros hanner canrif o brofiad yn y grefft o ailgodi adeiladau hanesyddol, gan gynnwys rhes o dai gweithwyr haearn o Ryd-y-car ger Merthyr.  Yn ystod 1998 felly rhifwyd holl friciau a cherrig Fron Haul, y llechi, cwarelau'r ffenestri a'r drysau fel rhyw jig-so enfawr, a'u cludo'n ofalus i Lanberis.  Ceir y cofnod cyntaf am y tai yng Nghyfrifiad 1861: diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol agorwyd y rhes yn ei chartref newydd ym mis Gorffennaf 1999.

Symud Fron Haul

Symud Fron Haul
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.