Fynedfa newydd
Prif adeilad
Llys Rhosir
Y Gweithdy
Y Gweithdy

Helpwch ni i greu hanes!

Mae’r gwaith ar Broject Creu Hanes Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bellach wedi cychwyn ac mae’n sbardun i’n hymgyrch i godi gweddill yr arian sydd ei angen arnom.

Mae pob rhodd o bob maint yn cyfri ac yn cyfrannu at ein project cyffrous ar gyfer trigolion Cymru.

I gyfrannu rhodd, argraffwch y ffurflen isod a’i hanfon atom:

Lawrlwytho Ffurflen Cyfrannu Rhodd

Cylch Cyfrannu Sain Ffagan

Yn rhan o’n hymgyrch, rydym wedi sefydlu Cylch Cyfrannu Sain Ffagan yn arbennig ar gyfer cefnogwyr sydd am roi rhwng £1,000 a £25,000. Bydd yr aelodau’n cyfrannu’n helaeth at y project gan atgyfnerthu ein grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a rhoddion hael eraill.

Gofynnwn i chi gefnogi ein hymgyrch a rhannu ein gweledigaeth i greu amgueddfa hanes genedlaethol wirioneddol ysbrydoledig i Gymru.

I drafod ymuno â’r Cylch Cyfrannu, cyfrannu rhodd i ran arall o’r project neu ddull arall o gefnogi, cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu trwy e-bostio datblygu@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3184.

I ymaelodi â Chylch Cyfrannu Sain Ffagan, argraffwch y ddwy ffurflen isod a’u hanfon atom:

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.