Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Cyflogau a Thalu'r Dynion

Er bod gweithwyr y Gilfach Ddu yn grefftwyr profiadol a medrus, nid oedd ganddynt ddim ar bapur i brofi eu cymwysterau, ac fel gweithwyr cyffredin y caent eu talu.  Er enghraifft, cyflog ffiter, saer neu of ym 1917 oedd 4/2 [21c heddiw] y dydd.  Os digwyddai fod yn grefftwr arbennig o dda, ac wedi bod wrth y gwaith am flynyddoedd, câi 4/6 y dydd.  Ni châi fforman - a oedd nid yn unig yn grefftwr o'r radd flaenaf ond hefyd yn dwyn tipyn go lew o gyfrifoldeb - mwy na 5 swllt [25c] y dydd yn yr un cyfnod.

Byddai'r chwarelwyr a dynion gweithdai'r Gilfach Ddu yn gweithio'r flwyddyn gron, heblaw am y Sul a phrynhawniau Sadwrn.  Ychydig iawn o wyliau a gaent.  ‘Doeddan ni ddim yn gweld golau ddydd tan ddydd Sadwrn yn y gaeaf.   Roedd hi'n dywyll - cychwyn chwech y bora hyd chwech y nos.'

Cyflogau

Ers talwm telid i'r chwarelwyr bob yn bedair wythnos, ar ddydd Sadwrn - sef 'Sadwrn setlo' neu 'Ddiwrnod Cyfri' Mawr'.  Trodd hyn ymhen amser yn dâl pythefnosol ac yna'n dâl wythnosol.  Deuai'r cyflogau mewn tuniau bach crwn a roddwyd yn daclus ar hambwrdd mawr.  Byddai'r prif glerc wedyn yn galw rhif y tun a'r dyn priodol yn camu 'mlaen i'w nôl.  Os oedd hi wedi bod yn fis arbennig o dda, fyddai'r tun wedyn ddim yn ddigon mawr i ddal y cyflog.  Anaml iawn y digwyddai hyn, ond pan wnâi, rhoddwyd gweddill yr arian mewn amlen a'i rhoi i'r dyn gyda'r tun - gelwid mis fel hwn yn 'fis enfilop'.

'O ni'n mynd i fyny - oedd na steps yn mynd i fyny … o'r Gilfach Ddu i'r offis Fawr … y Golden Steps o nw'n galw nw'n y diwadd. O ni'n cerad i fyny fanno i nôl ein cyflog…'

'Digon isal odd cyflog yr iard mewn ffor' 'r'adag hynny 'te wyddoch chi…y crefftwrs i gyd, seiri a gofaint a ffitars i gyd. Yr un gyflog 'te.'