Rydych chi yn:  >   >   > 
English

Cymru - Y Wlad Ddiwydiannol Gyntaf

HWYLUSO DEFNYDD O GASGLIADAU DIWYDIANNOL AOCC

DOGFEN YMGYNGHOROL

1.0 CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC) yn un o ddeunaw sefydliad yng ngwledydd Prydain i dderbyn cymorth grant gan y Llywodraeth i ddatblygu a gofalu am gasgliadau cenedlaethol o ddeunyddiau amgueddfaol. Ei nod, yn gryno, yw i "Ddangos Mwy o Drysorau Amgueddfaol i Fwy o Bobl". Dros rai blynyddoedd bellach bu'n datblygu ei ffordd o reoli'r casgliadau diwydiannol, gan roi blaenoriaeth i eitemau sy'n dehongli bywyd gwaith yng Nghymru, gyda'r bwriad o roi i genedlaethau heddiw ac yfory gwell dealltwriaeth o hanes y gymdeithas a'r economi.

Yn sgl cau Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru (ADMC) mae cyfle i ailystyried natur yr amgueddfa a fydd yn cymryd ei lle ac yn ffurfio rhan o'r strategaeth i arddangos casgliadau diwydiannol AOCC. Mae cyfle hefyd i ymgynghori â chyrff ac unigolion sydd â diddordeb ledled Cymru, a datblygu partneriaethau newydd i ddiogelu a rhannu treftadaeth ddiwydiannol Cymru.

Mae'r ddogfen hon yn holi barn pobl yngln â chyfeiriad y gweithgaredd casglu yn y dyfodol, ac ar y strategaeth i arddangos y casgliadau diwydiannol i'r cyhoedd. Mae'r casgliadau yn eithaf amrywiol, ond maent yn canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n 'arbennig' i Gymru. Yn ogystal â dathlu llwyddiannau'r gorffennol, mae'r strategaeth hon hefyd yn ceisio edrych tua'r dyfodol, a dehongli 'diwydiant' yn ei ystyr ehangaf.

Mae'r papur hwn yn disgrifio'r mynediad at y casgliadau wrth gefn/ymchwil a'r casgliadau sy'n cael eu harddangos. Mae'r olaf mewn pedair rhan:

Rydym yn awyddus i dderbyn eich sylwadau yngln ? sawl agwedd ar yr ymdriniaeth hon.


2.0 CYFLWYNIAD

2.1 Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru drwy Siartr Frenhinol ym 1907, a newidiwyd yr enw ym 1995 i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, er mwyn adlewyrchu amrywiaeth yr wyth safle ledled Cymru. Fersiwn fer o'i arwyddair, a ddyfynnir uchod, yw 'Dangos Mwy o Drysorau i Fwy o Bobl', sef arwydd o awydd gwirioneddol i roi gwell mynediad i gasgliadau'r Amgueddfa a'u defnyddio i'r eithaf fel adnoddau amhrisiadwy er mwyn dysgu am oes.

Daw dros 800,000 o ymwelwyr bob blwyddyn drwy ddrysau (AOCC); bydd 120,000 o blant ysgol yn benthyca'r casgliadau addysgol yn eu hysgolion eu hunain, a bydd miloedd yn rhagor yn ymweld ag arddangosfeydd teithiol mewn partneriaeth ag amgueddfeydd ac orielau eraill neu eitemau o'r casgliadau a roddwyd ar fenthyg iddynt. Yn fwyfwy y dyddiau hyn, mae technoleg newydd - y Rhyngrwyd a CD Rom - yn darparu hyd yn oed rhagor o gyfleoedd i rannu casgliadau AOCC gydag ymwelwyr 'rhithwir' o bob oedran.

Mae AOCC yn un o ddeunaw sefydliad yng ngwledydd Prydain i dderbyn cymorth grant gan y Llywodraeth i ddatblygu a gofalu am gasgliadau cenedlaethol o ddeunyddiau amgueddfaol. Ar hyn o bryd y mae'n arolygu ei ddull o reoli'r casgliadau diwydiannol - yn sg?l cau Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru ym Mae Caerdydd, daeth cyfle i ystyried union natur yr hyn a ddaw yn ei lle, a'r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau bod holl gasgliadau diwydiannol AOCC (nid yn unig y rhai a arferai gael eu harddangos i'r cyhoedd) mor hygyrch â phosibl.

2.2 Amgueddfa Diwydiant a M?r Cymru Bae Caerdydd

Agorwyd Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru ym 1977. Y bwriad oedd y byddai'n rhan o ddatblygiad mwy, yn tyfu fesul cam. Fel y digwyddodd hi, oherwydd diffyg arian a newid cynlluniau ar gyfer y rhan hon o'r Bae dros y blynyddoedd dilynol, cyfyngwyd y datblygiadau i brynu triongl o dir cyfagos ac adeilad "Sied Q", lle cynhaliwyd gweithgareddau addysgol, ynghyd â 126, Stryd Bute. Yn ogystal â hyn cymerwyd adeilad yr orsaf ar brydles degawd ar gyfer oriel rheilffyrdd. Er gwaethaf ymdrechion glew yr aelodau staff medrus ac ymroddedig, nid oedd adeilad ADMC ei hun yn ddigon mawr nac yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion amgueddfa fodern mewn cefndir rhyngwladol.

Bwriad AOCC oedd creu amgueddfa ddiwydiannol newydd i gymryd lle ADMC fel rhan o Ganolfan Mileniwm Cymru, gan ddefnyddio'r arian o werthu ADMC. Yn anffodus, gwrthododd y Gronfa Loteri Treftadaeth â chefnogi'r project, a bu'n rhaid newid y cynlluniau.

Lleddfwyd y siom wreiddiol gan y ffaith fod cyfle bellach i ailystyried natur yr amgueddfa newydd, trwy ymgynghori ? chyrff ac unigolion perthnasol ledled Cymru, a chyfle hefyd i ddatblygu partneriaethau newydd i ddiogelu a rhannu treftadaeth ddiwydiannol Cymru.

2.3 Safleoedd AOCC

Hanes neu ddaearyddiaeth sy'n pennu lleoliad nifer o'r amgueddfa ac orielau a reolir gan AOCC. Er enghraifft, mae'r ddwy amgueddfa sy'n cyflwyno archeoleg Rufeinig wedi'u lleoli mewn safleoedd Rhufeinig pwysig.

Mae'r un peth yn wir am y ddwy amgueddfa ddiwydiannol a reolir gan AOCC ar hyn o bryd, sef Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis (ALC) a leolir yn chwarel lechi Dinorwig (a gaeodd yn fasnachol ym 1969), ac Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru (ADGC) yn Nhre-fach Felindre, calon melinau gwlân Dyffryn Teifi yn ne-orllewin Cymru. Nid yw'r felin hon erioed wedi cau, a bu'n gweithio'n ddi-baid am bron i gan mlynedd.

Amgueddfeydd eraill sydd ag elfen neu gysylltiadau diwydiannol yw Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan (AWC), Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd (AOGC) ac, yn dilyn cau Amgueddfa Diwydiant a M?r Cymru, presenoldeb ym Mae Caerdydd yn 126 Heol Bute (126). Safle siop siandler oedd hwn a bellach mae'n cynnwys arddangosiadau sy'n gysylltiedig â hanes morwrol Caerdydd.

2.4 Polisau Casgliadau

Mae gweithgareddau casglu AOCC yn cael eu llywio gan bolis?au a gymeradwyir gan ei gorff llywodraethol, hynny yw y Cyngor. Arolygir y polis?au hyn yn rheolaidd; un polisi sy'n cael ei archwilio ar hyn o bryd yw 'Cymru yn Gweithio'. Rydym yn ceisio rhoi gwell blaenoriaeth strategol i brynu a rheoli deunyddiau sy'n dangos gweithgarwch yn gysylltiedig â gwaith yng Nghymru, fel y gall cenedlaethau heddiw ac yfory gael gwell dealltwriaeth o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru ar hyd yr oesoedd. Mae hyn yn unol â Siarter yr Amgueddfa sy'n galw arni i hyrwyddo addysg trwy 'ddarlunio'n gyflawn ddaeareg, mwnyddiaeth, s?oleg, botaneg, ethnograffeg, archeoleg, celf, hanes a diwydiannau arbennig Cymru'. Yn ddiweddarach fe ddatblygir polis?au eraill sy'n edrych ar yr holl feysydd a gwmpasir gan Siarter yr Amgueddfa. Bydd gwaith domestig yn cael ei gynnwys dan un o'r penawdau hyn.

2.5 Casgliadau ar gyfer Ymchwil ac i'w Harddangos

Yn debyg i bob amgueddfa arall, nid yw'r rhan fwyaf o'r tua 7.5 miliwn o eitemau yng nghasgliadau AOCC yn cael eu harddangos. Mae hyn yr un mor wir am y casgliadau diwydiannol ag ydyw am feysydd eraill, oherwydd nid yw popeth y mae'r Amgueddfa yn ei gasglu yn addas i'w arddangos. Mewn gwirionedd, nid ar gyfer eu harddangos y bwriedir y rhan fwyaf o'r gwrthrychau a gesglir gan unrhyw amgueddfa, ond yn hytrach i fod yn rhan o'r casgliadau wrth gefn neu ar gyfer ymchwil, gan greu archif diffiniol 3-dimensiwn am y gorffennol. Ni ddaw hi byth yn bosibl arddangos holl gasgliadau amgueddfa; rhaid cael casgliad wrth gefn er mwyn cofnodi'r testun yn llawn a'i ddeall, darparu'r data craidd ar gyfer gwaith ymchwil ysgolheigaidd yn y dyfodol, ateb ymholiadau gan unigolyn neu gorff perthnasol, a darparu cyd-destun ar gyfer holl arddangosiadau'r Amgueddfa, sydd o raid yn hynod ddethol o ran hyd a lled.


3.0 Y CASGLIADAU DIWYDIANNOL

3.1 Bydd cyfran helaeth o bolisi 'Cymru yn Gweithio' yn ymdrin â deunydd diwydiannol. Mae'r casgliad morwrol a'r casgliad cludiant yn rhannau sylweddol o'r deunydd hwnnw. (Mae adrannau eraill o'r polisi yn cyfeirio at waith gwledig fel amaethyddiaeth a chrefftau ac ni chânt eu trafod yn y ddogfen hon). Y mae allforio dramor a chludo deunyddiau crai megis glo a chynnyrch gorffenedig megis rheiliau a thunplat, wedi bod yn rhan anhepgor o hanes diwydiannol Cymru ar hyd yr oesau. Mae cynnydd a datblygiadau ym meysydd technoleg, peirianneg sifil a gorchestion morwrol yn rhannau pwysig o'r hanesion hyn oll.

3.2 Sefydlwyd casgliadau diwydiannol presennol AOCC dros nifer fawr o flynyddoedd. Yn aml yn y gorffennol, fe gâi eitemau eu hychwanegu er mwyn diogelu esiamplau o dechnoleg a oedd yn prysur farw o'r tir, lawer ohonynt yn gysylltiedig â diwydiannau trwm. Yr oedd llawer o brif ddiwydiannau Cymru yn dibynnu mwy ar weithwyr nag ar beiriannau yn y gorffennol, ac o ganlyniad y cyfan a geir i gynrychiolir y miliynau o ddynion a weithiai yn y pyllau glo gan geibiau a rhawiau, jaciau a lampau diogelwch. Dyma'r unig ffordd ? mewn tri dimensiwn - y gellir cynrychioli'r dynion mewn gwirionedd. Oherwydd ffactorau o'r fath, y mae casgliad diwydiannol AOCC (yn debyg i gasgliadau mewn sefydliadau eraill) yn gogwyddo mwy tuag at gynrychioli esiamplau o wahanol dechnoleg yn hytrach na darlunio hanes diwydiannol Cymru.

3.3 Hyd yn hyn, y mae AOCC wedi canolbwyntio mwy ar gasglu deunyddiau'n gysylltiedig â'r diwydiannau trwm traddodiadol a chymharol ychydig o ddeunydd a geir yn y casgliadau i gynrychioli'r saith deg o flynyddoedd diwethaf. O hyn ymlaen fe fydd AOCC yn neilltuo amser ac adnoddau i wneud iawn am hyn, ac, yn benodol, y bydd yn ceisio bod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfoes trwy arolygu newid a mynd ati i gasglu ar sail y newidiadau hynny. Ymhlith yr enghreifftiau o ddeunyddiau a gesglir fe fydd cydrannau ceir, deunyddiau electronig, peiriannau a thechnoleg a geir mewn swyddfeydd. Mae gofod ac arian yn golygu na allwn gasglu popeth. Felly, rhaid i ni ddewis themâu a fydd, gyda'i gilydd, yn golygu y gall ein plant a'n hwyrion a'n hwyresau ddeall diwedd yr ugeinfed ganrif fel rydym ninnau nawr yn ceisio deall y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a chyfnodau cynharach.

Mae AOCC yn cynnig y dylid symud pwyslais ei weithgarwch casglu i gynnwys eitemau sy'n gysylltiedig â diwydiant yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif - ac, yn ddiweddarach, yn yr unfed ganrif ar hugain.

A oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran meysydd diwydiannol penodol y gallai AOCC ganolbwyntio arnynt?


4.0 MYNEDIAD AC ARDDANGOS

4.1 Canolfan Gasgliadau

Mae AOCC yn credu y dylai sicrhau bod cynifer o'i gasgliadau â phosibl ar gael i'r nifer fwyaf o bobl ag y bo modd, boed nhw'n ymchwilwyr academaidd neu'n aelodau o'r cyhoedd sy'n mynegi diddordeb. I'r perwyl hwn fe fydd AOCC yn gosod y casgliadau diwydiannol nad ydynt yn cael eu harddangos mewn Canolfan Gasgliadau newydd gyda mynediad da i'r cyhoedd, wedi'i lleoli ar gyrion Caerdydd. Nid ar chwarae bach y mae ail-leoli'r casgliadau hynny, gan y bydd y symud ei hun yn cymryd tua phedwar mis. O'i gwblhau, fodd bynnag, am y tro cyntaf fe fydd yr Amgueddfa yn storio'r holl gasgliadau diwydiannol gydai'i gilydd mewn un safle, dan amodau rhagorol, a lle gellir cael mynediad atynt yn hawdd. Ymhen y rhawg, gobaith yr Amgueddfa yw ychwanegu at y Ganolfan hon ac ail-leoli rhannau eraill o'i gasgliadau wrth gefn yno, fel y gellir eu gwneud hwythau yn llawer mwy hygyrch nag y maent ar hyn o bryd.

Mae AOCC yn cynnig bod y casgliadau diwydiannol nad ydynt yn cael eu harddangos na'u rhoi ar fenthyg yn cael eu dwyn ynghyd mewn Canolfan Gasgliadau, lle byddant ar gael i'r cyhoedd eu gweld, ynghyd â gwybodaeth berthnasol a staff arbenigol.

Yn eich barn chi, a yw hyn yn ddatblygiad cadarnhaol?
A ydych yn rhagweld y byddech yn defnyddio'r Ganolfan eich hun?

4.2 Arddangos

Mae polisi AOCC o ran arddangos a chyflwyno'r casgliadau diwydiannol ledled Cymru yn cael ei lywio gan yr egwyddorion a geir yng Nghynlluniau strategol 1995 ar gyfer arddangos yr holl gasgliadau, sef dogfen o'r enw 'Dangos Mwy o Drysorau Amgueddfaol i Fwy o Bobl'. Fe gyflawnir hyn drwy wella'r arddangosfeydd a'r arddangosiadau yn yr amgueddfeydd eu hunain; gellid ystyried mai'r cam cyntaf mewn datblygiad o'r fath yw project ALC, a ariannwyd i raddau helaeth gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ffordd bwysig arall y mae AOCC yn sicrhau bod y casgliadau ar gael yn fwy eang yw drwy roi benthyg eitemau i amgueddfeydd eraill a sefydliadau tebyg yng Nghymru benbaladr a thu hwnt.

Mae'r amlinelliad sy'n dilyn yn nodi disgrifio ymdriniaeth bedair rhan ar gyfer arddangos diwydiant ledled Cymru mewn amgueddfeydd a reolir gan AOCC ac eraill. Er ei fod yn canolbwyntio ar ALC, ADGC, AWC, AOGC a'r amgueddfa 'Mynedfa' Cymru arfaethedig yn cyflwyno fel cenedl ddiwydiannol, y mae hefyd yn cynnwys Pwll Mawr ac amgueddfeydd eraill a phartneriaid treftadaeth eraill.

4.2.1 Diwydiant mewn cyd-destun

Mae amgueddfeydd AOCC eisoes yn datblygu'n llawer mwy na dim ond amgueddfeydd 'diwydiannol' sy'n arddangos egwyddorion mecanyddol a pheirianyddol a mawrygu cerrig milltir technolegol: maent yn cyflwyno diwydiannau yng nghyd-destun ehangach daeareg, daearyddiaeth, hanes cymdeithasol a diwylliannol. Yn AWC, yng nghalon ardal chwarelyddol gogledd Cymru, nid yn unig y mae'r dulliau diwydiannol hanesyddol a thraddodiadol o dynnu, cludo, trin ac allforio llechi yn cael eu disgrifio a'u harddangos yng ngweithdai'r chwarel ei hun, ond fe eglurir hyn oll o fewn y cyd-destun daearegol a arweiniodd at y gweithgareddau hyn yn ogystal â'r hanes cymdeithasol a diwylliannol a ffurfiwyd yn eu sg?l.

Yr oedd llawer o gyfoeth gorllewin Cymru yn dibynnu ar gyfoeth yn tarddu o'r diwydiant gwlân. Mae ADGC yn olrhain y prosesau hanfodol, o gnu i'r garthen. Yma eto dylanwadodd daearyddiaeth ar ddatblygiad y diwydiant - diwydiant a gafodd effaith dra sylweddol ar hanes cymdeithasol a diwylliannol yr ardal ac ar ddatblygiad economaidd Cymru.

Amgueddfa Mwyngloddio Pwll Mawr yn Nhorfaen yw un o'r tair amgueddfa mwyngloddio sy'n cael eu rhestru yn amgueddfeydd o bwys yng ngwledydd Prydain. Mae'n bwll sy'n cael ei gadw'n ymarferol ac sy'n rhoi profiad gwirioneddol o fod dan ddaear i thua 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn ddiweddar cafodd AOCC cais gan Ymddiriedolwyr Pwll Mawr i'r pwll ddod yn rhan o AOCC. Y mae'r Amgueddfa wedi cytuno y bydd yn ceisio gwireddu hyn, yn amodol ar drafodaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, fe lwyddodd Pwll Mawr i sicrhau Arian Datblygu gan Gronfa Loteri Treftadaeth i ddiogelu'r safle a'i ddatblygu, ac mae'n debygol y bydd rhai o gasgliadau diwydiannol AOCC yn cael eu hail-leoli yno. Os daw Pwll Mawr yn rhan o AOCC, gall ffurfio triongl diwydiannol, gydag ALC ac ADGC.

Felly, yn ALC, ADGC a Phwll Mawr, byddai AOCC yn cynnal tair amgueddfa ddiwydiannol ymarferol mewn cyd-destun dilys lle byddai'r staff yn arddangos hen dechnegau gweithio â llaw yn ogystal â rhai o elfennau mecanyddol y diwydiannau erbyn heddiw: chwarela a thrin llechi, nyddu a gwehyddu gwlân a mwyngloddio a chludo glo.

Nid yw'n ymarferol bob tro dangos diwydiant yn ei gyd-destun mwyaf naturiol, ond dyma yw nod AOCC lle bynnag y bo modd.

A ydych yn cefnogi hyn, ynteu a oes gennych safbwyntiau gwahanol?

4.2.2 Dylanwad diwydiant ar Fywyd a Diwylliant Cymru

Mae gan hanes diwydiannol ran i'w chwarae mewn cyd-destunau eraill hefyd. Mae pobl yn aml dan yr argraff bod AOCC yn dehongli'r celfyddydau a'r gwyddorau fel disgyblaethau academaidd, fesul un; yn yr un modd fe gafodd AWC ei hystyried yn amgueddfa ar gyfer bywyd a diwydiannau gwledig yn unig. Er na fyddai, am nifer o resymau, bob tro yn briodol godod arddangosiadau didactig o brosesau diwydiannol neu ddatblygiadau peirianyddol o fewn yr amgueddfeydd hyn, mae'n bwysig serch hynny bod perthnasedd diwydiant i fywydau pobl, dylanwad diwydiant ar eu diwylliant ac effaith diwydiant ar fio-amrywiaeth eu gwlad, oll yn cael eu plethu'n rhan o'r arddangosiadau hynny.

Cafodd Amgueddfa Werin Cymru ei sefydlu yn Sain Ffagan ym 1948 i ddod ag enghreifftiau o fywyd gwledig a diwydiannau gwledig Cymru gyfan at ei gilydd ar safle mor hygyrch ag y bo modd i gynifer o bobl â phosibl. Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, mae'r amgueddfa hon wedi dechrau cynnwys elfennau o fywyd pentrefol yn ogystal â bywyd y cymoedd a'r cymunedau diwydiannol llai sy'n britho tirwedd Cymru.

Ni ddaw hi byth yn bosibl arddangos y diwydiannau trwm a ddenodd bobl (gweithwyr?) i gymunedau fel Llanberis neu Flaenafon yn AWC ochr yn ochr â'r diwydiannau gwledig traddodiadol fel amaethyddiaeth, trin crwyn, pobi a gwaith gofaint. Y cysgodion a deflir gan y diwydiannau trwm hyn - y cyfoeth a grewyd i rai, y tlodi a'r afiechyd a achoswyd i eraill, a dylanwadau y bywyd hwn ar gymunedau Cymru, eu hiaith a'u diwylliant - dyma'r hyn a fydd yn cael ei adlewyrchu a'i egluro fwyfwy o hyn ymlaen.

Er enghraifft, cafodd llewyrch a chwymp y diwydiannau haearn a glo effaith enfawr ar fywyd Cymru, a rhesdai y gweithwyr haearn (a glowyr yn ddiweddarach) o Ryd-y-car oedd yr arddangosiad 'diwydiannol' cyntaf i ymddangos yn AWC ym 1987. Bellach y mae'n un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd AWC ar y safle. Roedd bywyd y cymunedau hyn yn troi o gwmpas Sefydliadau'r Gweithwyr a bu agor Sefydliad Oakdale yn llwyddiant ysgubol arall.

O edrych ar yr ugenfed ganrif, mae'r egwyddor yn ddigon tebyg. Ni allwn ail-greu ffatri Laura Ashley yn AWC ond gallwn adlewyrchu ei bodolaeth a'i dylanwad. Gallwn hefyd arddangos llawer o gynnyrch domestig y diwydiannau ffilm, teledu ac electroneg: gweld Superted ar deledu Sony mewn golygfa o'r 1980au, er enghraifft.

Bydd cyflwyno hanes diwydiannol â'r arddangosiadau gwyddoniaeth a chelfyddydau yn amgueddfeydd eraill AOCC hefyd yn parhau, fel y bydd ymwelwyr yn deall cymaint o effaith a gafodd diwydiannau Cymru ar economi'r Deyrnas Gyfunol yn ogystal ag ar dreftadaeth Cymru. Er na ddylid dilorni'r arfer o fwynhau ein casgliadau gwych er eu mwyn eu hunain, mae'n bwysig fod pobl yn deall eu perthnasedd a'u harwyddocâd, fel pethau mwyaf gwerthfawr cenedl ddiwydiannol. Felly nid yn unig y bydd ymwelwyr yn mwynhau paentiadau'r Argraffiadwyr yn AOCC, byddant hefyd yn dysgu sut yr oedd dwy fenyw ifanc o Gymru mewn sefyllfa i gallu casglu celfyddyd fodern ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Yr oedd Margaret a Gwendoline Davies yn wyresau i entrepreneur anghyffredin o gefndir cyffredin tu hwnt a ddaeth i adeiladu rheilffyrdd, agor pyllau glo a chreu dociau'r Barri er mwyn cystadlu yn erbyn Caerdydd; roedd ei wyresau yn gystal arloeswyr ag yntau wrth fuddsoddi yn yr hyn a ystyrid yn gelfyddyd fodern hynod feiddgar ar y pryd!

Mae AOCC yn credu bod gan hanes diwydiannol Cymru ran bwysig i'w chwarae wrth geisio dehongli a deall casgliadau eraill.

A ydych yn cytuno?
A hoffech chi gynnig sylwadau pellach?

4.2.3 Partneriaethau a pherthnasedd hanes diwydiannol Cymru i'r presennol a'r dyfodol

Yn amlwg, nid AOCC yw unig geidwad treftadaeth ddiwydiannol Cymru ac y mae eisoes yn gweithio gydag amgueddfeydd a'r cyrff treftadaeth hynny yng Nghymru sy'n rhannu'r cyfrifoldeb hwn, megis Cyngor Amgueddfeydd Cymru; yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Ddiwydiannol); Cadw; a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae eitemau o AOCC ar fenthyg i'r rhan fwyaf o amgueddfeydd yng Nghymru (a llawer yng ngweddill gwledydd Prydain) ac mae'n rhannu gwybodaeth ac arbenigedd drwy'r amser gyda chyrff proffesiynol eraill. Y mae hen ddigon o gyfle i ddatblygu'r partneriaethau hyn ymhellach ac yn ehangach ac mae AOCC yn awyddus i wneud hyn a datblygu cynghreiriau newydd gyda ffiniau ehangach.

Y mae diwydiant yng Nghymru yn hanes ysgubol, o ran amrywiaeth y diwydiannau, eu gwahanol leoliadau a'r cyfnodau a gynrychiolant - o 3500 CC neu hyd yn oed ynghynt hyd y dydd heddiw ac i'r dyfodol. Y mae hefyd yn hanes hynod, oherwydd gall Cymru hawlio bod y cyntaf yn y byd i wneud llawer o bethau: yr oedd pris copor y byd yn cael ei reoli o Abertawe o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at y 1870au; Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i fod â mwy o bobl yn gweithio mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth; cafodd y locomotif st?m cyntaf yn y byd ei adeiladu a'i yrru yng Nghymru; bu gweithfeydd haearn Blaenau'r Cymoedd yn arwain masnach y byd mewn cledrau dur rhwng y 1830au a'r 1860au; yr oedd Merthyr Tudful yn gartref i'r weithfeydd haearn Cyfarthfa a Dowlais ? y mwyaf yn y byd yn eu cyfnod; ddwywaith bu Caerdydd yn gartref i'r dociau mwyaf yn y byd, ym 1839 ac yna drachefn ym 1908.

Nid oes modd yn y byd i AOCC allu ymdopi â'r holl ffeithiau, ffigurau a chysyniadau ar ei ben ei hun! Mae'n hanfodol datblygu partneriaethau cryfach gydag amgueddfeydd a chyrff 'treftadaeth' eraill, yn enwedig o fewn Cymru ond hefyd ledled gwledydd Prydain.

Wrth edrych yn ôl ar yr ugeinfed ganrif ac ymlaen i'r unfed ganrif ar hugain, fe fydd gwerth cynyddol mewn partneriaethau gyda diwydiannau cyfoes a'u hadrannau ymchwil a datblygu. Yn arddangosfa 'Canrif o Foduro' ADMC yr oedd car wedi'i ddatgymalu'n llwyr, gyda'r cydrannau bellach yn cael eu gwneud yng Nghymru, a dyma un enghraifft o'r modd rydym eisoes yn gweithio gyda diwydiant modern i ddod â'u cynnyrch a'u prosesau i'n harddangosiadau yn yr amgueddfa. Enghraifft arall yw'r gwyddiau yn ADGC sy'n dal i gael eu defnyddio'n fasnachol, ac mae cynlluniau ar droed i ychwanegu 'gorffennu' at y gwaith hwnnw.

Rydym yn croesawu trafodaethau am brojectau ar y cyd gyda gwahanol ddiwydiannau traddodiadol a modern.

Hoffai AOCC ddatblygu partneriaethau gydag amgueddfeydd eraill, gyda chyrff treftadaeth a busnesau modern ledled Cymru, yn arbennig o safbwynt cydlynu ein cynlluniau i gasglu eitemau sy'n gysylltiedig â diwydiant o'r ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.

A ydych o'r farn y dylid cydlynu cynlluniau i gasglu eitemau o'r fath?
- o fewn Cymru?
- o fewn gwledydd Prydain?
A ddylai AOCC fod yn arwain yn hyn o beth, yn eich barn chi?

4.2.4 Amgueddfa 'Mynedfa' Cymru, cenedl ddiwydiannol gyntaf y byd

Mae AOCC yn datblygu'r cysyniad o gael amgueddfa 'Mynedfa' i hanes diwydiannol. Bae Caerdydd yw'r dewis safle gan ei fod yn briodol yn hanesyddol a daearyddol. Erbyn 1880 yr oedd Caerdydd yn cael ei ystyried yn fetropolis glo y byd, heddiw dyma brifddinas y wlad, cartref y Cynulliad ac mae yng nghanol yr ardal sydd â'r mwyaf o boblogaeth yng Nghymru.

Bydd yr amgueddfa hon yn egluro arwyddocâd diwydiannau Cymru mewn cyd-destun byd-eang, o ledio'r byd ym maes mwyngloddio haearn a metelau eraill a diwydiannau mwyndoddi, heibio i'r galw aruthrol am lo ar ôl 1860, hyd at ddiwydiannau heddiw - electroneg, cydrannau cerbydau, cyfryngau/teledu a thwristiaeth. Fe fydd yn amgueddfa i Gymru gyfan, yn adrodd hanes balch esblygiad a llwyddiannau diwydiannau Cymru i Gymru a'r byd.

O safbwynt yr ymwelwyr, gallai amgueddfa 'Mynedfa', fel yr un a ddisgrifir, agor y drws ar gasgliadau perthnasol eraill o fewn Cymru a thu hwnt, yn ogystal â'r rhai a gedwir gan AOCC.

A fyddech chi'n croesawu cysyniad o'r fath?
Os ydych yn cynrychioli amgueddfa neu gorff tebyg, a fyddech chi'n awyddus i weithio gydag AOCC i ddatblygu amgueddfa newydd I gyflwyno diwydiant a phynciau cyffelyb ledled AOCC, trwy amgueddfeydd a safleoedd hanesyddol eraill, fel adnawdd addysgol ar gyfer pobl Cymru a thu hwnt?

4.2.5 Lleoliad

Bu proffwydo y bydd 2 filiwn o ymwelwyr yn dod i Fae Caerdydd, gan olygu mai Caerdydd o bosibl fyddai'r safle arfordirol gorau i'r amgueddfa hon, am resymau hanesyddol, ymarferol a masnachol. Petaem yn methu prynu'r safle sydd dan sylw gennym ar hyn o bryd, ger gweddillion Doc Gorllewinol Bute (Oval Basin), yna y mae safleoedd eraill ar arfordir de Cymru sy'n werth eu hystyried fel lleoliadau ar gyfer amgueddfa o'r fath. Mae'n rhy fuan i godi gobeithion ond fe fyddem yn awyddus i drafod arddangos y casgliadau hyn gyda phartneriaid eraill posibl. Y mae gan rai ohonynt hanes diwydiannol hn a mwy amrywiol na Chaerdydd; y mae gan rai amgueddfeydd bywiog y gallai AOCC o bosibl geisio sefydlu partneriaeth â nhw.

Os na fydd modd lleoli'r amgueddfa newydd ym Mae Caerdydd, fe ddefnyddir nifer o feini prawf i asesu lleoliadau eraill:

Lle bynnag y caiff ei hadeiladu, bydd yr amgueddfa hon yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd gan gysylltu hanes diwydiannol Cymru ? hanes diwydiannol y byd yn gyffredinol. Er enghraifft, o gymunedau llechi a glo gogledd a de Cymru yr ymfudodd teuluoedd i arfordir dwyreiniol America, i helpu i sefydlu pyllau glo a gweithfeydd haearn Pensylfania ac Ohio a chwareli llechi Vermont a Quebec. Fe fydd yr amgueddfa hefyd yn anfon ymwelwyr yn eu blaenau i safleoedd ac amgueddfeydd ledled Cymru lle disgrifir gweithgareddau diwydiannol mewn mwy o fanylder mewn safleoedd dilys.

O dderbyn bod rhai meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni wrth benderfynu ar leoliad addas i Amgueddfa Genedlaethol newydd, a oes gennych farn yngln â hyn?


5.0 Y CAMAU NESAF

5.1 Yn y Tymor Byr

Wrth i'r cynlluniau ar gyfer codi'r amgueddfa newydd gael eu cwblhau, mae'n bwysig fod y casgliadau diwydiannol mor hygyrch â phosibl i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac aelodau'r cyhoedd, prun ai a gawsant eu harddangos i'r cyhoedd yn ddiweddar yn ADMC neu a ydynt wedi'u storio.

Fel sy'n wir am holl gasgliadau AOCC, mae nifer o eitemau o'r casgliadau diwydiannol eisoes ar fenthyg i wahanol amgueddfeydd ac atyniadau treftadaeth ledled Cymru, gan gynnwys er enghraifft, Castell Cyfarthfa, Merthyr; Canolfan Diwylliant a Threftadaeth Pontypridd; Amgueddfa Forwrol Porthmadog; Amgueddfa Ceredigion; Amgueddfa Fwyngloddio Pwll Mawr; Cymdeithas Reilffordd Bro Morgannwg ac Amgueddfa Forwrol a Diwydiannol Abertawe. Os bydd cais yn dod i law am gael benthyg eitem a hynny'n golygu y bydd amgueddfa arall yn gofalu'n dda amdani, ac y byddai mwy o bobl yn cael mynediad ati nag arfer, yna yn gyffredinol mae AOCC yn fodlon cytuno â'r cais.

Ar 18 Ebrill fe ailagorodd yr orielau yn 126 Heol Bute i'r cyhoedd. Maent ar agor chwe diwrnod yr wythnos a bydd y staff curadurol a'r staff dofennu yn parhau i weithio yn y safle hwnnw am y tro. Rydym yn awyddus i gadw presenoldeb ym Mae Caerdydd gan arddangos casgliadau morwrol AOCC sy'n berthnasol i Gaerdydd a phorthladdoedd diwydiannol eraill yn ne-ddwyrain Cymru.

Wedi i ADMC gau, fe fydd llawer o eitemau o'r casgliad cludiant yn cael eu hail-leoli yn Amgueddfa Werin Cymru, a arferai fod yn gartref i rai o'r eitemau hynny. Bydd rhai yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Lechi Cymru ar ei newydd wedd, yn Llanberis, ac eraill mewn lleoliadau fel Profiad Cludiant Cymru yn y Barri a'r Waterworks Museum yn Henffordd (am resymau hanesyddol, mae'r Amgueddfa yn derbyn cefnogaeth gan Ddwr Cymru, dyma'r unig le y tu allan i Gymru sy'n cael benthyg ein casgliadau diwydiannol ar hyn o bryd).

Yn fwyaf arwyddocaol o bosibl, bydd y Ganolfan Gasgliadau newydd yn rhoi cyfle - am y tro cyntaf - i uno casgliadau diwydiannol AOCC, nad ydynt yn cael eu harddangos, mewn un lleoliad lle gellir eu gweld yn llawer haws ac mewn amodau llawer gwell nag erioed o'r blaen.

5.2 Cynlluniau ar gyfer y tymor canolig-hir

Mae holl elfennau'r strategaeth hon yn ddibynnol ar ei gilydd ac er mai'r Ganolfan Gasgliadau sydd fwyaf amlwg ar hyn o bryd, yr amgueddfa 'Mynedfa' yw'r bwysicaf yn y tymor hir. Yr amgueddfa hon fydd yn dod â'r cyfan at ei gilydd, gan olygu y gall ymwelwyr gyrchu i un lle i weld crynodeb o'r hanes diwydiannol maith hwn sy'n ymestyn dros Gymru gyfan, ac wedi ei osod mewn cyd-destun byd-eang.

Yr oedd Cymru ar flaen y gad yn ddiwydiannol ymhell cyn ffyniant y diwydiant glo yn y 1860au a gallwn ymfalch?o yn y gorchestion hynny. Y mae'n ddyletswydd ar AOCC sicrhau nad yw'r hanes a adroddir yn yr amgueddfeydd yn dod i ben gydag edwino'r diwydiannau traddodiadol, sef glo, haearn, copr, gwlân a physgota. Eithr dylai gefnogi ac adlewyrchu arferion cyfoes ac ymestyn i feysydd newydd, o gelfyddyd i ddaeareg, gan dynnu ar gyfraniad amgueddfeydd eraill ac atyniadau treftadaeth ledled Cymru gan edrych ar ddiwydiant yng Nghymru heddiw ac yfory


6.0 CASGLIAD

Wrth i Gymru symud ymlaen i gyfnod newydd, mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at weithio o fewn strwythurau democrataidd newydd, ac at weithio gyda phartneriaid ledled Cymru - a thu hwnt o bosibl - i ddiogelu treftadaeth ddiwydiannol unigryw Cymru ar gyfer ein hymwelwyr oll, ar gyfer plant heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.


Os oes gennych unrhyw sylwadau pellach yngln â'r ddogfen hon, os gwelwch yn dda a wnewch chi roi gwybod i ni erbyn diwedd Medi 1998.

Diolch yn fawr am gymryd orig i ddarllen y strategaeth ddrafft hon. Rydym yn croesawu eich barn. Fe fyddwn yn dadansoddi canlyniadau'r ymgynghoriad hwn a pharatoi adroddiad ar sail y canlyniadau yn ystod y 3 mis nesaf a byddwn yn cyhoeddi'r casgliadau yn fuan wedi hynny.

Tybed a wnewch chi anfon eich sylwadau at Dr Eurwyn Wiliam, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF1 3NP.