Athrawon

Cyfnod Allweddol 2, Athrawon

Ceisiadau nawr ar agor - Ymchwiliad bylbiau’r gwanwyn i ysgolion.

Ar gael ym mhob un o'n hamgueddfeydd

Plannwch fylbiau ar dir eich ysgol er mwyn astudio newid yn yr hinsawdd. Ymunwch â’r ymchwiliad hwn
sy’n cael ei gynnal ledled y DU, a helpu i wella sgiliau rhifedd a gwyddoniaeth
yr un pryd. *Rhaid i bob ysgol wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn
cymryd rhan y mis Medi canlynol.

www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

Ffurflenni gais: https://scan.wufoo.com/forms/bylbiauar-gwanwyn-i-ysgolion-a-ffurflen-gais/

Dyddiadau: Mis Medi – Mis Mawrth

Cwricwlwm

CA2 Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth ac ADCDF

Addysg Oedolion, Cymunedau, Teuluoedd, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16, Athrawon
Am ddimSesiwn beilot

Taith Dan Ddaear

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Taith dywys 90 metr dan y ddaear gyda chyn-löwr i gael blas go iawn ar fywyd yn y pwll. Trafodir datblygiadau allweddol ym maes glo a sut y lluniodd yr aur du hanes Cymru.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.

Cwricwlwm

Hanes; Cwricwlwm Cymreig

Addysg Oedolion, Cymunedau, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16, Athrawon
Am ddimDan arweiniad athro

Geiriau Glo

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Adnodd ar-lein i’r rheini sy’n dysgu Cymraeg ar lefelau Mynediad a Sylfaen. Mae Geiriau Glo yn annog dysgwyr i ymweld â Big Pit a defnyddio’r arddangosiadau ac adnoddau i wella eu profiad o ddysgu Cymraeg. Dewch i ddysgu mwy am dreftadaeth ein pyllau glo a gwella’ch sgiliau iaith.

link
Hyd: 30 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.