Rydych chi yn:  >   >   > 

Addysg ôl-16

Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Taith Chwarel Vivian

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfle i fynd am dro tu hwnt i’r Amgueddfa at droed Chwarel Vivian a thuag at Ysbyty'r Chwarel, i glywed mwy am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau, ac i weld rhai o’r dyfeisiadau Fictoraidd blaengar fel y blondin a’r inclen.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £22 am hyd at 15 disgybl, £37 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i ysgolion yng Nghymru sydd â mwy nag 20% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Y Lôn Goed

Amgueddfa Lechi Cymru

Taith dywys drwy lygaid ein Saer.  Cyfle i ddysgu mwy am y cwt sils, y craen coed, yr olwyn ddwr, y ffowndri a rhai o'n patrymau pren rhyfeddol.

Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.

Gwybodaeth

Map

Llanberis, Gwynedd
Ar agor 10am-5pm bob dydd (Pasg-Hydref), 10am-4pm Sul-Gwener (Tachwedd-Pasg)

Adran addysg:
(029) 2057 3717

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd