Amgueddfa Cymru

Hollti a Naddu Llechi

Yn y chwarel ei hun, yn y gwalia – sef y siediau gydag ochrau agored – oedd yr hollti a’r naddu’n digwydd; bellach mae’n digwydd yn yr iard, ond fe allwch chi weld y tri bwrdd llifio llechi yma o hyd.  Mae’r pŵer o’r olwyn ddŵr yn gyrru’r tri drwy gyfrwng yr echel.  Daw’r ddau fwrdd llai o Chwarel Dinorwig ei hun, ond daw’r mwyaf o Chwarel Penyrorsedd yn Nyffryn Nantlle.  Mae’n dyddio o 1876.

Wrth weld crefftwyr wrth eu gwaith yn hollti a naddu, byddwch yn siŵr o ryfeddu wrth eu medrusrwydd – at sicrwydd y llygad a’r anel fathemategol bron wrth i’r cŷn daro’r llechen yn chwim a chysact.

Tasg trwm, llychlyd a swnllyd yw llifio llechi.  Rhaid cadw cafn o dd?r o dan y bwrdd i oeri'r olwyn wrth iddi dorri drwy'r slabyn o lechen, a lleddfu ychydig ar yr holl lwch a gynhyrchir.  Pan fyddai cant neu fwy o fyrddau ar waith ar un tro, byddai cymaint o lwch yn yr awyr nes i ddyn fethu bron â gweld pen arall y sied.  Roedd effeithiai'r llwch hwn yn andwyol iawn, wrth reswm, ar iechyd y chwarelwyr, gan arwain at anwylderau'r frest a silicosis.

[delwedd: Hollti Llechi]

Gwelwch nifer o beiriannau i naddu'r llechi yn y fan yma, hefyd: dau beiriant gilotîn a weithir â throedlath, i lifio'r llechi, a thri pheiriant i naddu'r llechi, un o chwarel Dorothea, un o Benyrorsedd, a'r llall o Ddinorwig.  Ond cofiwch, er y datblygwyd dulliau peiriannol a thrydanol i hwyluso'r gwaith o lifio a naddu'r llechi, mai gyda llaw yr holltir llechi o hyd.

Yn eu horiau hamdden, ymfalchïai chwarelwyr yn eu gallu i drin a thrafod llechi a'u saernïo yn eitemau hardd yn ogystal â llechi toi.  Ceir amryw enghreifftiau yn yr ardaloedd chwarelyddol o lefydd tân, hambyrddau a phaneli a gerfiwyd yn hynod o gwyrain â phob math o symbolau.

Enwau'r Llechi o Wahanol Feintiau

Gelwid enwau boneddigaidd eu naws ar y gwahanol feintiau o lechi yn ôl eu graddfa, gan amrywio o'r 'Ladis' (Ladies) 16 modfedd x 12 modfedd drwy'r 'Cowntesys' 20 modfedd x 12 ac i fyny drwy'r 'Dychesis' a'r 'Prinsesis' hyd y 'Cwîns' 42 modfedd x 27 modfedd.

Pam bod Cymry uniaith yn galw'r fath enwau Seisnigaidd ar eu llechi? Yn ôl y sôn, cychwynnodd yr arfer ddiwedd y 18fed ganrif, yn chwarel y Penrhyn, Bethesda, gyda gŵr o'r enw y Cadfridog Warburton.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.