Amgueddfa Cymru

Trenau Bach, Ceir a Cherbydau

Defnyddiwyd trenau yn y chwarel i gludo'r llechi i'r poerthladd, ac yn ddiweddarach i gludo'r gweithwyr i'w gwaith hefyd.  Ym 1848 roedd dwy injan stêm yn rhedeg ar hyd y cledrau - Jenny Lind a'r Fire Queen. Ym 1882 ychwanegwyd peiriant modern, cryf o'r enw Dinorwic at y stoc.  Erbyn 1895 teithiai dau beiriant mawr arall ar y lein rhwng y Gilfach Ddu a Phenscoins ger Y Felinheli - sef Amalthaea (Pandora oedd ei henw hyd 1909) a Velinheli. Bu'r rhain yn tynnu trên y gweithwyr hyd 1947, a'r trên llechi hefyd hyd 1961.  Dim ond unwaith yn ystod y cyfnod hwn y methodd y trên erioed, sef yn ystod eira mawr 1929.

Rhwng 1848-95, fodd bynnag, defnyddiai'r gweithwyr beiriannau o'r enw 'velocipedes' neu 'geir gwyllt' i gyrraedd eu gwaith.  Roedd dau fath o 'gar gwyllt', sef y car cicio a'r car troi, a gallai'r rhain deithio'n ddigon cyflym gyda'r gwynt o'u hôl!  Yn wir, byddai'r dynion yn aml yn rasio'r cerbydau hyn er iddynt gael eu gwahardd rhag gwneud.  Ym 1858 boddwyd dau pan gollasant reolaeth ar y cerbyd a'i ddymchwel i Lyn Padarn.

Fel pob dim arall yn y chwarel, roedd ganddynt eu henwau  - rhai digon ffansi fel Garibaldi, Signor Foli a'r Duke of Cambridge, a rhai mwy cartrefol fel Y Gaseg, Jennie Bach a'r Falwoden Lwyd. (Mae enghraifft i'w cael yng nghasgliad yr Amgueddfa.)

Ym 1895 teithiai dros fil o ddynion y dydd yn ôl ac ymlaen o'u cartrefi i'w gwaith yn y Gilfach Ddu; ychwanegid dau gerbyd fore Llun a phrynhawn Sadwrn ar gyfer y gweithwyr o Fôn.  Byddai'r rhain yn teithio yn y cerbydau nesaf at yr injan a gelwid y rhain gan y gweithwyr eraill, yn gellweirus, 'y tryciau moch'.

Roedd pob math o injans yn y chwarel; rhai bychain a ddefnyddid ar y ponciau i weithio peiriannau tyllu, ac i dynnu slediau a wagenni rwbel, a dwy injan a weithiai'r ryn llechi ar reilffordd gwaelod y gwaith. Roedd y rhain yn rhy fawr i weithio ar y ponciau.

Gwelid hefyd fath arall o gerbyd ar y lein, a hwnnw'n gerbyd digon hynod, sef 'Y Sal#363;n' neu'r 'garej felen'.  Cerbyd preifat teulu Assheton Smith oedd hwn, ac yn ogystal â chludo teulu'r Faenol a'u gwesteion ar ymweliad â'r chwarel o bryd i'w gilydd, byddai'n cludo cyflogau'r gweithwyr bob wythnos o fanc y Felinheli, a dau ddyn arfog yn ei gwarchod.

[delwedd: Cerbydau]

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.