Amgueddfa Cymru

Y Cwt Injan ac Una

Ers talwm, 'y Baltic' oedd enw'r cwt yma gan y dynion —gan gyfeirio at ei natur oer, drafftiog mae'n siŵr! Heddiw dyma gartref arferol Una, injan stêm 0-4-0, gauge 61cm, a adeiladwyd ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds. Mae Una'n enghraifft dda o'r math o injans stêm a oedd ar waith yn y chwareli o'r 1860au ymlaen. Heb yr injans hyn, ni fyddai'r chwareli wedi datblygu fel y gwnaethant — yn wir, gallai'r cysylltiadau rheilffordd olygu llwyddiant neu fethiant i chwarel.

Treuliodd Una ei bywyd gwaith yn chwarel Penyrorsedd yn Nyffryn Nantlle. Mae staff yr Amgueddfa wedi gweithio'n galed iawn i'w hadfer i'w chyflwr gwreiddiol, a bellach mae Una yn gweithio'n iawn. Mae hi'n codi stêm yn rheolaidd ac mae'n olygfa gwerth ei gweld yn ei lifrai gwyrdd tywyll a'i phres gloyw.

Ond er bod gweld injan stêm ar waith yn ddeniadol iawn, nid oedd defnyddio'r injan go iawn yn y chwarel yn broses ramantus! Roedd disgwyl i'r gyrrwyr a'r tanwyr gyrraedd y chwarel erbyn rhyw 5 y bore i godi stêm ar gyfer gwaith y dydd, a hefyd i drwsio mân broblemau. Byddai'r tanwyr yn bachu ac yn dadfachu wagenni, ar eu pennau-gliniau mewn dŵr, eira neu laid, ac yn ceisio gosod wagenni'n ôl ar y ffordd haearn drwy fôn braich. Yn aml byddent yn torri llengig neu'n colli bysedd yn y broses.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.