[delwedd: Olwyn Ddŵr]

Yr Olwyn Ddŵr

Rhwng 1870, pan gafodd ei llunio gan gwmni De Winton o Gaernarfon, a 1925, pan ddechreuwyd defnyddio’r olwyn Pelton lai, yr olwyn hon oedd yn cyflenwi ynni i holl weithdai’r Gilfach Ddu. Mae’n ddigon o ryfeddod hyd heddiw. Dyma’r olwyn ddŵr fwyaf sydd i’w gweld ar dir mawr Prydain: mae’n 15.4 metr ar ei thraws.

Ym 1870, pan godwyd y gweithdai, roedd gan y peirianwyr ddau ddewis: gosod injan stêm enfawr yma, neu ddefnyddio grym dŵr. Byddai gosod injan stêm yn golygu gorfod prynu glo, a'i gludo o'r Felinheli ar y rheilffordd hefyd — ac roedd hynny'n costio pres. Wedi talu am y bibell a'r olwyn ddŵr, ar y llaw arall, byddai'r dŵr yn rhad ac am ddim.

Daw’r dŵr sy’n gyrru’r olwyn o raeadr Ceunant, uwchben Llanberis, mewn pibelli haearn bwrw. Bydd y dŵr yn codi o’i hunan wedyn i’r tanc uwch ben yr olwyn (mae hyn yn digwydd oherwydd bod y ffynhonnell yn uwch na lefel y tanc). Daw gyriant yr olwyn o’i hymylon, ac nid o’i both, ac felly dim ond dal yr olwyn at ei gilydd y gwna’r breichiau — yn debyg i olwyn beic.

Trwy gyfrwng system o ddannedd ac olwynion piniwn, mae’r ynni a ddaw o’r dŵr sy’n llifo o’r naill un o fwcedi’r olwyn i’r llall yn teithio ar hyd echel i bob un o weithdai’r safle.

Mae cydbwysedd yr olwyn gystal nes ei bod yn dechrau troi y funud y bydd un yn unig o’i 140 o fwcedi yn llenwi â dŵr. Mae’r olwyn gyfan yn destament i ddoniau peirianwyr lleol, ac yn dal i weithio dros ganrif a chwarter wedi ei llunio. Fel yr incléin, adferwyd yr olwyn yn y flwyddyn 2000 diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae ar waith yn gyson. Cofiwch ddringo’r grisiau neu esgyn yn y lifft i’w gweld – cewch syniad da felly o rym anferthol yr olwyn oedd yn gyrru holl weithgareddau’r gweithdai.

Er gwaethaf ei chynllun effeithiol, fodd bynnag, erbyn 1925 yr oedd yr olwyn wedi treulio llawer wedi blynyddoedd o waith. Pob tro y deuai’r olwyn i stop byddai’r gwaith i gyd o reidrwydd yn dod i stop hefyd. Penderfynwyd gosod olwyn Pelton ar gangen i’r brif bibell, yn y gornel o dan yr olwyn fawr. Er ei bod yn llai o lawer, roedd hon dipyn yn fwy effeithlon na’r olwyn fawr oherwydd mai ynni cinetig (o ddŵr yn rhuthro drwy bibell a oedd yn raddol gulhau) oedd yn ei gyrru yn hytrach na dŵr yn disgyn o uchder mawr, sef ynni potensial, fel yn achos yr olwyn ddŵr.

Roedd yna rai prosesau pwysicach na'i gilydd yn y gwaith — a wiw i'r olwyn fethu ar yr adegau hynny.

Mae Alwyn Owen yn cofio ‘Do'm ots faint 'sach chi'n canu ar y gloch 'san nhw ddim yn stopio diwrnod castio am y rheswm roedd hi'n troi y ffan 'ma odd yn cynhyrchu gwynt i'r ffwrnais 'te…Ag os oedd y llif fowr na'n llifio plancia, chai honno'm stopio chwaith ne' sai'n cau cychwyn wedyn. Odd honno'n cael blaenoriaeth.

Dim ond unwaith y gwyddys i olwyn Pelton fethu, a hynny yn ystod gaeaf caled 1947, pan rewodd y dŵr yn y bibell a'i cludai o raeadr Ceunant.

Ynni yn y Gweithle

Cludid yr ynni a gynhyrchai'r olwyn ddŵr i'r gwahanol weithdai trwy gyfrwng echel. Yr echel hon, a oedd yn fodd i droi turnau a gyrru morthwylion, symud llifiau a driliau, oedd gwythiennau'r gweithdy. Cludai ynni'r olwyn i bob rhan o'r gweithdai gan roi bywyd i beiriannau a fyddai fel arall yn llonydd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.