Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Y Caban

Caban

Yn y Caban byddai gweithwyr y Gilfach Ddu yn ymgynnull yn yr awr ginio i fwyta’u tamaid ac i yfed te. Dyma gyfle i gymdeithasu ac i drafod materion y dydd; byddai Llywydd y Caban yn darllen o’r papur newydd ac yn cyhoeddi manylion am ddigwyddiadau lleol fel cyngherddau ac oedfaon capel. Anrhydedd oedd cael eich dewis yn Llywydd ar y Caban; golygai bod gan y dynion gryn feddwl o’ch cymeriad a’ch barn. Byddai stof ynghanol y stafell yn bwrw’i gwres ac eisteddai’r dynion o’i chwmpas yn ôl eu trefn gyda’r bechgyn ieuengaf agosaf at y drws. Rhwng y stof a chotiau gwlybion yn sychu, awyrgylch gynnes ond clos oedd yno yn ôl y sôn – a'r 'ffowntan' ddŵr yn dragwyddol ferwi at de'r awr ginio. Roedd hi'n anhepgor cadw'r ffowntan i ferwi drwy'r adeg.

Roedd yna gabanau i’r chwarelwyr ar y ponciau hefyd, ac yn aml cynhelid eisteddfodau yn y naill neu’r llall o’r rhain. Caed pob math o gystadlaethau, gan gynnwys her adroddiad ac ambiwlans, cystadlaethau canu i bartïon ac unigolion, ac weithiau cafwyd Gadeirio go iawn — er mai stôl ar ffurf blocyn hollti oedd y gadair mewn gwirionedd!

Oeddach chi ddim ishio ‘Eco'r Wyddfa’ na 'im byd, papur bro 'wan. Odd 'na bobl yn dwad oedd, o Waunfawr, G'narfon, Llanrug, Cwm y Glo, rheiny gyd yn cwarfod yna wyddoch chi. ‘Edyn oeddach chi'n gwbod be oedd yn digwydd yn pentra yna.

Champion o dân coch mowr fydda'n disgwl powb 'te.